Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIRWESTWR. DAN NAWDD CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. ARDYSTIAD CYMANFA DDIRWESTOI. GWYNF.DD. " Yr wyfyn ymrwyrao yn wirfoddol i Iwyr-ymwrthod â Gwlybyroedd Medd#awl; ibeidio na rhoddi na chynyg ycyfryw i neb arall j ac y'mhob modd i wrtlisefyll yraehosiou a'r achlysuron o anghymedroldeb," CYF. IV.] AWST, 1843. [Rhif. XXXVII. Y PECHOD 0 FEDDWDOD. Diameu mai dyledswydd pob Cristion yn neillduol ydyw gwrthwynebu pechod yn yr achlysuron yn gystal a'r achosion o hono : ac nid gwaith proffeswyr crefydd yn unig ydyw, ond y mae rhwymau euraidd cariad yn rhwymo pawb yn mhob man, ac yn mhob sefyllfa, i'w wrthwynebu: ac yn ol fy marn i, ystyrir yrhwn a welo bechod yn cynyddu, ac yn codi ei ben yn y byd, ac yntau heb wneyd a allo er ei wrthwynebu, gan gyfreìthiau manwl y Goruchaf, yn lleiddiad o'r fath waethaf. Y mae pechod yn anhawdd iawn i'w wrthwynebu, o her- wydd fod holl serchiadau y natur ddiryw- edig yn naturiol yn cydymffurfio â'i demt- asiynau: o ganlyniad, y mae ymdrech a gwroldeb mawr yn angeurheidiol i'w wrth- sefyll. Pob pechod ag y bydd yr arferiad o hono yn hen a chyffredinol, gofynir ym- drech ddeublyg i'w wrthwynebu. Ac un o'r pechodau hynotaf a chyflawnaf yn y nodweddiadau hyn yw Meddwdod. Y mae yn hýn na'r dylif—cwympodd llawer sant yn archolledig yn ei faglau a'i demtasiyn- au;—anrheithiodd lawer o eglwysi,— rhwygodd lawer o deuluoedd a pherthyn- asau oddi wrth eu gilydd ;—rhoddodd rif- edi mân-wellt y ddaear i orwedd dan fan- tellau mudandod a distawrwydd yn y cyn- amserol fedd; ac agorodd ffordd rydd i farnedigaethau y Duw Hollalluog ymarll- wys nes suddo y ddaear i eigionau damn- edigaeth. Y mae y pechod hwn yn gy- ffredinol iawn yn yr ymarferiad âg ef. Yr oedd hyd yn ddiweddar bob gweinidog (braidd) a phregethwr, proffeswr a dibroff- eswr, tylawd a chyfoethog, yn euog o ddal y pechod hwn i fyny. Yr oedd temlau Bacchus yn amlach yn y gwledydd a'r din- asoedd nag unrhy w fasnachdai. Y mae hwn (fel ereiil o'i gyfeiìlion) yn meddu digon o eofndra i adeiladu ei demlau yn y dyffryu- oedd meillionawg—ar làn yr afon ddolen- og, yr hon yn ddibaid a esmwyth ymlithra ar ei gwely grisialaidd tua'r môr, ameiddia godi arwydd-styllen (sign) i wahodd dynion " at y gwirodydd,"—pan yr adseinia peros- lef sisialog yr afon, " deuwch Vr dyfroedd.'' Neu, os meddylia y medr godi business mewn lle go anial, fe ddringa i fynu hyd lwybrau y defaid, rhwng y grug a'r twm- pathau i ben y mynydd, ac yno adeiiada ei "Aleÿ Beer Shop." A diameu genyf mai hwy yw y tai a lochesant fwyaf o an- rhefn, jsgelerder, ac annuwioldeb, o dai a sylfaenwyd erioed. Nid rheidiol dwyn rhe- symau na ffeithiau i brofi hyny, am fod y petli yn brofedig i bob un sydd a llygad i ganfod, a deall i farnu. Yn awr, os yw meddwdod wedi ei brofi yn bechod, fei y sicrheir, yn achos o'r fath effeithiau echryslawn a ddilynaut yn arfer-