Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIRWESTWR. DAN NAWDD CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. ARDYSTIAD CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. "Yr wyf yn yrarwymo yn wirfoddoli lwyr-ymwrtlioci â Gwlybyroedd Meddwawl ; î bei.iîo na rhoddi na chyoyg y cyfryw i iteb arall; ac y'mhob modd i wrtlisefyll yrachosion a'r aclilysuron o anghymedroldeb.'' CYF. IV.] TACHWEDD, 1843. [Rhif. XL. SYLW AR HEB. XII. 4 : " A7 wrtìiwynebasoch eto hyd at waed, gan ymdrech yn erbyn pechod." Llefarwyd y geiriau hyn gan apostol mawr y Cenedloedd, yn ei lythyr anerch- iadol at yr Hebreaid, y rhai oeddynt, fel ag y mae Crìstionogion pob oes, yn yfed yn helaeth o gwpaneidiau chwerwaidd erledig- aethau a gorthrymderau yn y rhyfel ys- brydol; a thrwy ymdrech yn " rhedeg yr yrfa a osodwyd o'u blaen." Y mae yr apostol yn dwyn ar gof iddynt hanes "Iesu, Pentywysog a PherfFeithydd eu ffydd hwynt:"—iddo ef, " yn Ue y llawenydd a osodwyd iddo, ddyoddef y groes, gan ddi- ystyru gwaradwydd;" ac anoga hwynt i feddwl ac ystyried ,am ei deithiau milwr- iaethus a blinderus ef, fel y paro adgyf- nerthiad i'w hysbrydoedd trwmfrydig, ac " na fiinont ac nad ymollyngont yn eu hen- eidiau:" canys "ni wrthwynebasoch eto hyd at waed, gan ymdrech yn erbyn pech- od." Gallai yr anerchiad difrifol ac adeilad- ol hwn (er wedi ei gyfeirio yn uniongyrchol at yr Hebreaid) fod o addysga budd i ninau fel Dirwestwyr yr oes hon, yn nghanol yr ymdrechfa yn erbyn un o brif elynion ein gwlad, pan y mae byd, cnawd, a diafol yn rhyfela i'n herbyn ac yn pwyso arnom, fel na lwfrhaom ac nad ymollyngom yn ein heneidiau; " Canys ni wrthwynebasoch eto hyd at waed, gan ymdrech yn erbyn pech- od." Gallwn sylwi er ein hanogaeth, I. Ak y gwrthddbych a wbthwynebib Oenym;—meddwdod, neu yn ngeiriau y tes- tyn, pechod.-1 II. Mai dyledswydd a bbaint pob DYN YŴ EI WBTHWYNEBU. III. Y PELLDEB AG Y MAE EIN HYM- DBECHIADAü i'w EBBYN I FOD-----" Hyd at waed." I. Iìhai nodiadau ar y gwrthddrych a wrthwynebir genym. 1. Ymaeyn drosedd cyhoeddus o orchy- mynion pendant Duw. Cyn y gellir nodi unrhyw beth yn bech- od, y mae yn rhaid fod y cyfryw yn dros- edd o ryw gyfraith, oblegid " lle nid oes deddf nid oes gamwedd." A chyn y gellir condemnio annghymedroldeb neu feddwdod yn bechod, y mae yn rhaid fod rhyw ddeddf yn cael ei thori, a chyfraith yn cael ei mathru ganddo. A chan mai y Beibl, neu y gyfrol ysbrydoledig, ydyw ewyllys ddat- guddiedig Duw, lle y dadlenir egwyddorion a chyfreithiau y Goruchaf ger ein bronau, ac mai hwn ydyw rheol bywyd, a maen prawf pob egwyddor a chyfundraeth; dyma o ganlyniad y safon wrth yr hwn y coll- farnir meddwdod, fel pechod yn erbyn Duw a dynion. Nid oes yr un pechod ag y brithir yr ys- grythyrau â chymaint o orchymynion ac anogaethau i«d ei ochelyd ac ymgadw oddi wrtho. Y mae y Beibl nid yn unig yn gwahardd meddwdod, ond yn fiìeiddio, ac yn gorchymyn cadw draw oddiwrth yr achlys- uronohono; gochelyd y llwybr sydd yn arwain i feddwdod, sef yr ymarferiad lleiaf