Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

T DIEWESTWR HANESYDD RECHABAIDD. DAN NAWDD Y GYMANFA DDIRWESTOI,, AC ANNIBYNOL, URDD Y EECHABIAID. ARDYSTIAD CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. " Yr wyf yn ymrwymo yn wirfoddol i lwyr-ymwrtbod â Gwlybyroedd Meddwawl; i beidio na rhoddi na chynyg y cyfryw i uebarall; ac yn mhob modd i wrthsefyll yr aehosion a'r achlysuron o aughymedroldeb.' CYF. V.] MEDI, 1844. [Rhif. L. TEML SOBRWYDD.* Pan gynhyrfwyd cyfeillion rhinwedd a'r byd gyntaf, gan awyddfryd cyffredinol am adeiladau Teml i Sobrwydd, boddlonodd yr holl adeiladwyr, o'r bron, i'w sylfaenu ar wyneb cors wleb, sigledig, a elwid Cors- ymollwng, yr hon a dyfasai am oesoedd dros bydewau erchyll a phyllau ffiaidd, ar fin un o brif afonydd y fall, a elwir y Feddwol, yr hon a dardd o filoedd o rigolydd aflan a agorwyd yn nghorsydd a lleoedd lleidiog Rhos-wirf, eiddo Belial, gan drigolion hunangar, dideimlad, ac annghymydogol, Nant-yr-awydd, Glyn-bydolddyn, Pentref- yr-elw, Llanfelial, Llety'r-geiniog, Tai-y- fasnach, Bron-greulon, Caled-fryn, Dibris- gwm, Hafod-ofyn, Hendre'r-drymdoll, a Phant-y-graspil, a'u hamgylchoedd, er mwyn cyflenwi cornentydd halogedig Nant- y-segur, Nant-yr-yfed, Naní-hudol, y Flys- nant, Nant-y-maswedd, Nant-yr-ynfyd, Gwallgof-nant, a llawer o nentydd niweid- iol ereill; a hyny i'r dyben o ddyfrhau gweunydd gwancus, a chrasdir, a thir sych- edigdolydd Pant-y-fantais, Cwm-cybyddle, ac Ariangwm, yn ngwastadedd Cors-ym- ollwng, a chors arall a elwir Cors-annghof, yr hon sydd ychydig islaw iddi, ar lan yr " Cyhoeddwyd cyfran o " Deml Sobrwydd" yn y Papuryn a elwid " Y LLUSERN;" ond gan i'r Cyhoeddiad hwnw farw cyn ei gorphen, yr oeddwn yn ei barnu yn resyn bod y Cymry yn amddifad o honi yn gyflawu; ac y mae yn ddywenydd genym fod yr awdwr parchus (GWERYDDON) wedi ein hanrfiegu à'r ysgrif yu gyflawn, wedi ei gwellhau a'i diwygio, a chaiff ei hargraffu yn y Rhifyu hwn a'r tri canlynol o'r Dirwestwr.—GOL. afon, lle y mae Satan, y gwrthryfelwr cy- ffredinol, prif lywydd y gwastadedd, yn adeiladu teml i Loddest, duw y gwin. Oddi yma yr ymollyngodd Nabal y Car- meliad, Elah, brenin Israel, a Belsassar, brenin Babilon, i'r afon feddwol, ac y nof- iasant ar hyd-ddi i'r môr marw, gan eu boddi eu hunain i ddinystr a cholledigaeth; ac oddi yma, ysywaeth, y mae miloedd o feibion dynion yn ein dyddiau ninau mor ynfyd a gwneuthur yr un petb. Ond er i filoedd a miloedd o adeiladwyr Teml Sobrwydd ymfoddloni ar ylle gwlyb anfanteisiol hwn, lle y bu Noah, Lot, Solo- mon, ac aneirif luoedd ar eu hol, yn adeil- adu, y rhai y syrthiodd eu gwaith yn ddi- symwth i'r ddaear, ac y llychwinwyd eu gwisgoedd prydferth yn ddirfawr gan dom a llaid y gors; er mai ar y gwastadedd hwn, meddaf, y boddlonodd y lluaws, eto gwelid ambell un o'n cyfeillion yn dringo i fyny i'r mynyddoedd, ac yn sefydlu ar lanerch sech, galed, lle yr ydoedd craig gadarnach na chedyrn sylfeini y ddaear, a elwid Craig-ymattal, ar ben Bryn Dirwest, yn ucheldiroedd talaeth Cymedroldeb, tir Emanuel, Ue y bu y Nazareaid, Samuel y proffwyd, Samson, Jonadab fab Rechab, a'i feibion, Daniel a'ifrodyr (bechgyn y gaeth- glud) yn Babilon, loan Fedyddiwr, Tim- otheus, ac lesu Grist ei hun, yn y cyn- ddydd, a John Wesley, Ebenezer Richards, John Hughes o'r Bont, ac Eta Delta, yn y dyddiau diweddaf hyn, yn adeiladu.