Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIEWESTWR AB HANESYDD RECHABAIDD. DAN NAWDD Y GYMANFA DDIRWESTOL, AC ANNIBYNOI. TJBDD Y BECHABIAID. Ardystiad cymanfa ddirwestol gwynedd. "Yr wyf yn ymrwyrao yn wirfoddol i lwyr-ymwrthod â Gwlybyroedd Medd*awl; i beidio na rhoddi na chynyg y cy fry w i neb arall; ac yn mhob modd i wrthsefyll yr aehosion a'r aclilysuron o annghymedroldeb." CYF. V,] RHAGFYR. 1844. [Rhif. LIII. TEML SOBRWYDD. (Parhad o tüdal. 168.) Ac wrth breswylwyr Craigymattal y dy- wedent, "Ha, wŷr frodyr, yr ydym ya mawr lawenhau wrth eich gweled wedi dringo o'r gwastadedd hyd yma; a phan gydmharom eich sefyllfa yn awr â'r peth ydoedd, y mae gweled y graddau o dded- wyddwch yr ydych yn awr wedi cyraedd iddo, yn peri i ni ddiolch i Dduw, a chy- meryd cysur. O'r blaen, pan yfech, yfed i'ch gwneuthur eich hunain yn fwy sych- edig y byddech; pan wariech eich arian, eu gwario am yr hyn nad ydoedd fara y byddech; a phan lafuriech, lUfurio am yr hyn nad ydoedd yn digoni y byddech. Ond yn awr, o ran eich cyrph, yr ydych wedi eich disychedu, wedi eich diwallu â bara, eich meddyginiaethu, eich golchi, eich glanhau, eich gwisgo yn lân, yndrefnus, ac yn brydferth,- a'ch amgylchynu à llawnder o drugareddau. Ond er hyn i gyd, ein brodyr ariwyl, chwi a wyddoch yn dda eich bod yn mhell oddiwrth fod yn ddedwydd, tra y byddo eich eneidiau oddifewn ya sychedig, yn newynog, yn flin, yn glaf, yn gwyfus, yn archolledig, yn noeth, yn afian, ac yn ddiymgeledd. Nid ydy w Dirwest, er ei werth, Ac er inor brydferth yw, Yn lle i'r euog wneyd ei nyth, I farw byth, na by w. Er hyny i gyd, na ddigalonwch, ac nac yniollyngwch yn eich eneidiau; yr fdych yn awr wedi dyfod i le ac agwedd y gellir- ymddyddan ac ymresymu â chwi fel dyn- ion; oherwydd pa ham, er mwyn eich ded- wyddwch eich hunain o hyn allan byth, yr ydym yn mhob modd yn atolwg arnoch nad ymfoddlonoch ar ddyfod yn unig hyd yma: —dringwch i fyny yma, Ue y dygir chwi ger bron y Brenin, ac y derbynir chwi yn ddaionus ganddo; lle y llawenychir o'ch plegid, ac y derbynir chwi fel brodyr gan y dinasyddion; lle y cewch yfed o'r dyfroedd adfywiol a redant ar hyd canol yr heolydd, a'ch disychedu yn dragywydd; lle y cewch fwyta o'r manna cuddiedig, ac o'r wledd o basgedigion a wnaeth y Brenin i'r holl bobloedd yn y mynydd hwn, gwledd o loyw-win, o basgedigion breision, a gloyw- win puredig; lle y gwisgir chwi â gwisg. oedd gwynion ìiyfryd, a ddarparodd mab y Brenin, Tywysog tir Emanuel, i'w frod- yr; Ue y mae yn esmwythau ar bob nn blinderog a llwythog a ddelo ato, yn tywallt olew, gwin, a balm o Gilead, i'w briwiau a'u harchollion, ac yn adfywio eu heneidiau- clwyfus â photelau; llé y mae ffynnon o waed a dwfr wedi ei hagor i bechod ac afiendid; a Ue y mae y person addas hwnw a elwir y Dyddanydd, yn taenellu o'r ffyn- non hòno ar y dinasyddion i'w golchi a'u glanhau, gan eu hymgeleddu a'u parotoi i ymddangos yn llýs y Brenin tragwyddol, yn y ddiuas nefol, ac i eistedd i wledda