Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CENAD HEDD. "A Owaüh Cyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 182.] CHWEFROR, 1896. [Cyf. XVI. 'NÁWR. " Wele yn awr yr amser cymeradwy; wele yn awr ddydd yr ìachawdwriaeth."— 2 Coe. vi. 2. 'AE yn anmhosibl dirnad a theimlo gwirionedd y testyn hwn, yn holl bwys a dwysder ei ystyr, ac yn holl gyflawnder ei gymhwys- iad, heb fwrw golwg dros y cysylltiad. Y pwnc yr ymdrinia yr apostol âg ef ydyw Athrawiaeth y Öymod. Dyma ydoedd nod ac amcan ei fywyd, a chynhyrfydd ei holl weithgarwch a'i ymroddiad. Byth oddiar y dydd pan y cafodd olwg iawn ar yr Arglwydd Iesu, ac y profodd ragorol olud ei ras Ef, ar y ffordd i Damascas, yr oedd yn greadur newydd. " Yr hen bethau a aethent heibio; wele gwnaetbpwyd pob peth yn newydd." 0 hyn allan, yr oedd holl egDion ei feddwl, a holl adnoddau ei galon, yn llwyr gysegredig i'r amcan goruche] 0 ddwyn dynion i feddiant o'r un fendith. Bellach, yr oedd holl angerdd y sêl, aholl ffrwythlonedd y ddyfais a fuasai unwaith yn ngwasanaeth erledigaeth yn gwbl yragyfiwynedig i wasanaeth yr Efengyl. " Am hyny, nyni 0 hyn allan nid adwaenom neb yn ol y cnawd; ac os buom hefyd yn adnabod Crist yn ol y cnawd, eto yn awr nid ydym yn ei adnabod Ef mwyach." Diau f'od yma gyfeiriad at un 0 fìaenoriaid y gau-athrawon Iuddewig, yr hwn a ymffrostiai yn ei adnabyddiaeth bersonol o'r Arglwydd lesu yn ystod ei fywyd ar y ddaear, neu ynte yn ei adnabyddiaeth bersonol o'r apostolion cyntaf, a hyny er diraddio a dirinygu yr Apostol at y Cenedl- oedd. Nid yw Paul yn ymostwng i wastraffu ei amser a'i nerth trwy ateb ei wrthddadleuon ; ond y mae ar unwaith yn codi y mater mewn dadl i dir uwch, a hinsawdd mwy ysbrydol, lle y mae yr holl wrth- ddadleuon yn ymddangos yn eu holì wendid a'u gorwagder. Y wedd a wisgai yr Efengyl a bregethai, i feddwl yr apostol, ydoedd Cenadwri y Cymod. Ac y mae y gair cymod, o angenrheidrwydd, yn rhagdybied cyflwr blaenorol o ysgariaefh, neu gamddealldwriaeth, neu elyniaeth. Mae cymod wedi ei gamgymeryd weithiau yn lle cyfamod ; ond er mor debyg o ran sain, y mae y ddau air yu wahanol iawn o ran