Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CENAD HEDD "A Owaith Cyfiaiunder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 188.] AWST, 1896. [Cyf. XVI. Y MODMON EFFEITHIOLAF I DYNU ALLAN DALENTAU CUDDIEDIG YR EGLWYSI. jONA y testyn uchod amryw bethau :—1. Fod yn yr eglwysi dalentau; 2. Fod rhai ohonynt yn guddiedig; 3. Fod modd eu tynu allan, ond cael gafael ar y moddion effeithiolaf. Holwn, i ddechreu, beth a feddylir wrth dalent ? Tebygol fod y gair wedi ei fenthyca 0 Ddameg y Talentau (Matthew xxv.). Yn ol y ddameg hono, rhywbeth ydyw sydd wedi ei ymddiried i ddyn gan Dduw, ac am yr hyn y mae yn gyfrifol iddc am y defnydd a wnel ohono. Felly y mae, nid yn unig alluoedd meddyliol neillduol, ond pob dawn neu allu, pob cyfleusdra neu foddion drwy y rhai y galluogir dyn i fod 0 wasanaeth i gymdeithas, yn dalentau. Os yw y darnodiad yna yn gywir, y mae pob medr corff a meddwl ; cyfoeth, a phob cyfle i wneuthur daioni ; amser, a phob peth yr ym- ddiriedwyd i ddyn am danynt, oll yn dalentau. Os cywir hynyna, nid oes un aelod eglwysig nad ymddiriedwyd iddo am un, beth bynag am ychwaneg, o dalentau ; gan hyny, nid oes gymaint ag un aelod 0 Eglwys Dduw mor ddinod, ac mor ddistadl, fel nas gall fod o ryw wasanaeth i achos y Gwaredwr yn y byd, ac 0 ddef- nydd i'w gyd-aeiodau yn yr Eglwys. Ofer i neb ymesgusodi drwy ddyweyd mai ychydig allu a gafodd ; ei ddyledswydd ef yw gwneydyr hyn a all ; ni ofynir ychwaneg ganddo; ond bydd iddo fyned 0 dan gollfarn "y gwas drwg a diog " os na wna hyny. Mae yn bosibl hefyd i rai sydd wedi derbyn mwy nag un dalent fod yn euog o'u cuddio. Nid yr unrhyw ydyw talentau pawb. Y mae y Penarglwydd wedi gwneuthur gwahaniaeth rhwng y naill a'r llall, a hyny mewn amrywiaeth mawr ; y mae hyny yn eithaf amlwg, heblaw fod yr Ysgrythyr yn dyweyd felly. "Y mae amryw ddoniau, eithr yr un Ysbryd." Eto, y maent oll, er hyny, i'w rhodài mewn ymarferiad: dim un i'w chuddio ; " Eithr eglurhad yr Ysbryd a roddir i bob itn er Ueshad." "Wedi nodi yr amrvwiol ddoniau a roddir drwv Ysbryd Duw, dywedir yn mhellach, 15