Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CENAD HEDD "A Gwaith Cyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 190.] HYDREF, 1896. [Cyf. XVI. PAHAM YR WYF YN GRISTION ? 'AE yn gyson âg aDÌan dyn i fod yn addolwr Duw. Addolwn ni, yn y wlad hon, ac yn enwedig yn Nghymru, dan arweiniad ac addysgiaeth Iesu Grist. Am hyny y mae yn iawn i ni fedru ateb y sawl a'n holant am resymau y ffydd sydd ynom. Yn ddiddadl, rhaid fod rhesymau cryfion, ac anwrthwynebol i feddwl a'u hystyrio yn ddwys, dros dderbyn y fath gyfundrefn 0 grefydd —canys y mae ei hathrawiaethau yn aruchel ac aruthrol: dywed fod Person Dwyfol wedi ymuno â dynoliaeth, a marw dros bechodau yr holl fyd; y mae hefyd ei haddewidion yn ogoneddus, sef y dygir yr holl fyd yn y diwedd i dderbyn ei chenadwri yn mhob man, nes y bydd teyrnas- oedd y byd yn eiddo y Gwaredwr Hwn, a therfynau y ddaear yn Ei feddiant, ac yn mhellach y caiff Ei holl gredinwyr gartref tragywyddol yn nefoedd y gogoniant. " Nid gan ddilyn chwedlau cyfrwys," meddai Pedr, pan draethai ei feddwl ar y mater hwn. Nid chwedl gyfrwys ydyw yr Efengyl; nid chwedl ydyw, ond hanes sicr ydyw. Pe buasai yn chwedl, buasai y gyfrwysaf a fu erioed, a hithau wedi ei chynllunio a'i gweithio allan am 18 canrif, gan ugeiniau 0 wahanol awdwyr o ddyddiau Abraham hyd ddyddiau Ioan y Duwinydd. Yn y cyfnod hirfaith hyny, cynyddodd ac ymddadblygodd yr Efengyl dan wahanol amgylchiadau rhyfedd, fel y daw derwen gref i'w maintioli o fesen fechan. Nid oedd a fedrai ber- ffeithio a phrydferthu y ddwy ond yr un Llaw Ddwyfol. Yr oedd Pedr yn dywedyd y gwirionedd yn y llythyr hwn ; canys yr oedd yn ymyl marw yn y dull yr hysbysasai ei Waredwr wrtho flynyddau cyn hyny, a gwyddai hyny. Y mae dyn yn dywedyd y gwir pan fyddo yn seíyll 0 flaen angeu yn ei ]ys. Nid yw cyfraith ein gwlad yn dodi tyst ar ei Iw ar wely angeu ; mae angeu yn ei dynghedu yn ngŵydd ei Farnwr. Gan hyDy, gallwn gredu gair Padr nad chwedl ydyw yr Efengyl. Y mae sail iddi; sail gadarn Duw ydyw. Mae ganddi nerth, dyfodiad anwrthwynebol fel cawr y dydd drwy wyll y !9