Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CENAD HEDD "A Gwaith Gyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 194.] CHWEFROR, 1897. [Cyf. XVII. SWYN PLENTYNDOD. "A bachgm bychain a'u harwain." 'OR hardd ydyw pob peth ieaanc ! Pan oedd y byd yn ieuanc, " Wele da iawn ydoedd." Ei oleuni a'i oleuadau, ei nefoedd a'i ddaear, ei lysiau a'i brenau, ymlusgiaid, ehediaid, morfeirch mawrion, bwystfilod, ac auifeiliaid y ddaear—yr oedd eu Creawdwr mawr yn ymfoddhau yu swyn eu tegwch. Nid ydyw eu hudoliaeth eto wedi darfod. Mor hyfryd ydyw dydd ieuanc, pan bydd y "wawr yn ym- wasgaru ar y mynyddoedd!" Y mae ei dynerwch yn Ueddfu llid y sarff, ac yn ymlid y bwystfil rheibus i'w loches, gan ei gywilyddio i osod ei gleddyf yn ei waun. Y mae y ceiliog yn canu, a'r adar yn llanw'r cymoedd â'u clodforedd pan ddisgyn ei lewyrch ar eu hamrantau. Pan egyr y lefiathan ei ddau lygad, y maent megys agoriadau i fyd o oleuni, " fel amrantau y boreu." Y llywodraethwr i'w ddeisyf i ddynion ydyw yr hwn sydd "fel bore-oleuni, pan gyfodo haul foregwaith heb gymylau." Y mae y flwyddyn hefyd yn dechreu yn llon, ond yn diweddu yn drist. Y mae y gwanwyn yn siriol, yr haf yn hyderus, yr hydref yn sobr, ond awel y gauaf yn cwynfan gan loesion cornel y tŷ. Yr un modd, cana y gornant rhwng llechweddau y mynyddoedd. Symuda yr afon yn araf- ddwys trwy y dyffryn ; ond y mae dolef y môr yn brudd-der i'r ysbryd. Ar y buarth, y cywion, ac nid yr iar; ar y maes, yr oen, ac uid y ddafad; ac yn yr anialwch, y cenaw, ac nid yr hen lew, sydd yn tynu ein sylw gyntaf, ac yn galw allan ein hedmygedd penaf. Y mae yr ieuanc yn mhob cylch yn ddeniadol. Ond o bob peth bychan, " bachgen bychan " ydyw y mwyaf ei swyn a'r helaethaf ei ddylanwad. Wedi dihuno allan o dragywyddoldeb, gweddnewidia bob peth yn y byd hwn. Pair i natur ddarparu iddo wely esmwyth cariad a gobaith diddiwedd, hyd yn nod yn mwthyn ygweithiwr clawd. Pan orphwysa efe mewn hûn esmwyth, y mae tawelwch yn cael ei hawlio iddo, canys y mae ymwybyddiaeth fod dydd llafurus yn ei aros, a bod ei ffordd yn faith a phell. Try efe y gwr yn dad, y wraig yn fam,