Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CENAD HEDD " A Gwaith Gyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 196.] EBRILL, 1897, [Cyf. XVII. Y GYMDEITHAS GRISTIONOGOL. " A nyniy rhai ydym gryfion, a ddylem gynal gwenâid y rhai gweiniaid, ac nid rhyngu ein bodd ein hunain. Boddhaed pob un ohonom ei gymydog yn yr hyn sydd dda iddo er adeüadaeth. üanys Crist nis boddhaodd Éf ei Hun ; eithr, megys y mae yn ysgrifenedig, Giraradwyddiadau y rhai a'th waradwyddent di, a syrthiasant arnaf Fi."—Éhuf. xv. 1-3. YMA un o anhawsderau mawrion yr Eglwys yn yr oes apostol- aidd—pa fodd i uno mewn un gymdeitbas ddedwydd a defnyddiol ddynion a wahaniaethent mor ddwfn yn eu hanes a'u harferion blaenorol. " A rodia dau yn nghyd heb fod yn gytun?" Gwir íbd eu hymaelodiad yn yr EgJwys yn eu gwneyd yn un o ran amcan, ond eto anmhosibl yw i unrhyw ddyn ddadgysylltu ei hun yn hollol oddiwrth ei hen gylch. Dug ganddo i'r gymdeithas newydd hen ragfarnau, hen ofnau, hen syniadau. Fe gymer hir flynyddau o ddysgyblaeth i ddiwreiddio yr oll. Yn araf y daethai i gymeryd medd- iant 0 ryddid yr Efengy]. Teimlid oddiwrth yr anhawsder hwn yn Rhufain fel yn Antioch, Ephesus, a Corinth. Ýr oedd yn yr Eglwys ddau ddosbarth 0 bobl, yr Iuddew a'r Cenedlddyn. Anhawdd i ni heddyw gael syniad digon byw am y gwahaniaeth mawr fodolai rhwng y rhai hyn. Yr oeddynt mor bell ag yw y dwyrain oddiwrth y gorllewin 0 ran eu parotoad ar gyfer rhyddid yr Efengyl. Ac eto dysgwylid iddynt fyw yn gytun fel mewn un teulu, a chydweithio er cyrhaedd yr un amcan. Yn yr adnodau hyn, ac yn y benod flaenorol, eglnra yr apostol yr egwyddor fawr sydd i Iywodraethu yn y Gymdeithas Gristionogol, ac anoga ei ddarllenwyr i'w gosod mewn arferiad cyson. " Boddhaed pob un ohonom ei gymydog yn yr hyn sydd dda iddo er adeiladaeth." Dyma yr egwyddor sydd fel gwreichionen drydanol i uno elfenau gwahanol, a gwneyd yr Eglwys yn gymdeithas gref ac effeithiol. Ceir cipolwg yma ar— 1.7 Gymdeithas GristionogoL—IAjthyr at eglwys yw hwn ; nid at bersonau unigol, ond at bersonau fel aelodau o'r Eglwys. Ceir fod yr