Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CE NAD H E DD " A Gwaith Oyftawnder fydd Heddwch."—Esaìah. Rhif. 198.] MEHEFIN, 1897. [Cyf. XVII. PAHAM YR YDWYF YN BROTESTANT? AN dorodd y Diwygiad allan ar y Cyfandir dan arweiniad Luther, daeth y gair Protest i ddefnydd pwysig. Arwydda fod dynion yn protestio yn erbyn yr Offeiriadaeth Babaidd, ac yn hawlio barnn drostynt eu hunain mewn crefydd fel yn mhob peth arall, ac yn barnu a dadleu y dylai pob dyn wneuthur hyny, drwy chwilio pa beth a ddywed yr Ysgrythyrau am grefydd ac addoliad. Athrawiaeth sylfaenol Pabyddiaeth ydyw, mai yr offeiriaid sydd i farnu a dywedyd pa beth i'w gredu a'i wneuthur er addoli Duw yn iawn. Honant eu bod hwy yn yr Olyniaeth Apostolaidd, eu bod wedi eu hurddo i gyfranu doniau yr Ysbyyd Glan, ac i gyhoeddi credo gywir, ac na fedr neb ond hwy ddeall y Beibl yn iawn, mai pechod yw i neb wrthod derbyn eu barn hwy, a pherygl yw i ddyn lleyg geisio deall y Beibl ei hun. Maent hwy, meddant, wedi eu hawdurdodi i fod yn dadau ysbrydol i ddysgu a llywodraethu mewn crefydd, fel y mae tadau naturiol yn llyw- odraethu mewn teulu, ac yn fwy felly, gan fod eglwys yn fwy pwysig na theulu, crefydd yn fwy na bywioliaeth, ac nad yw tadau naturiol dan arweiniad yr Ysbryd, fel yr hona offeiriaid eu bod hwy. Yr offeiriad sydd i ffurfio a dywedyd ei farn, a llywodraethu ; nid yw eglwys y saint i wneyd dim ond bod yn oddefol ac ufuddhau, cyffesu a chyfranu ; ni fynir cynghor ganddi, ac ni raid iddi brynu llyfrau ac esboniadau er astudio a deall yr Ysgrythyrau. Mae y cyfan i fod yn ngofal yr offeiriaid, fel teithwyr cerbydres yn ngofal gweision y gledrffordd o'r fan y cychwynont hyd derfyn y daith. Cyn gynted ag y genir y plentyn, rhaid cael yr offeiriad i'w Gristion- eiddio, ei wneyd yn Gristion drwy fedydd, rhag iddo fod yn golledig, am na weinyddwyd bedydd arno, canys dywed yr offeiriad mai bedydd yw drws yr Eglwys, ac nid ffydd. Am hyny gorchymynir, os bydd y maban yn sâl, i hysbysu hyny yn ddioed i'r offeiriad agosaf, fel y deìo yno i'w achub trwy fedvdd, a'i wneyd yn blentyn 0 Eglwys Dduw. Yn ol eu 11