Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

30 COFNODION MISOL. iechyd, gwaith, serch, a chrefydd. Creadur drechir gan flys y\v dyn yn mhob tnan. Onid hyn ddygodd bechod i Baradwys ? Dylai cref- yddwr fod yn gwblrydd o lywodraeth blys. Mae Grifnth John yn llaf- urio yn barhaus, a medrus, a llw}Tddianus, yn llwyr ymroddi i waith y Meistr Mawr. Bydd ôl ei genadaeth ar genedl luosocaf y ddaear hyd dcliwedd amser. 0 na welai efe hi i gyd, pedwaran poblogaeth y byd, yn troi yn Gristionogion cyn yr elo efe i lawenydd ei Arglwydd. Calbdi yr Amaethwr—sydd yn go fawr. Ysgrubliad ydyw rhwng dau bwn, fel Isaachar; sef pwn eideulu ei hun, a phwn teulu ei feistr. Mae yn llaw ei feistr am fod mwy o amaethwyr nag sydd o diroedd, nes y mae yr ardrethyn grogbris. ac am na cheir prydles i ddyogelu gwell- iantau. Amaethwr yn ddiweddar a sychodd faes yn ei dyddyn â thraul o £100, a'r fiwyddyn ar ol hyny cododd ei arlwydd £5 yn ei ardreth am fod y maes hwnw yn fw}r cynyrchiol. Pa hawl oedd ganddo ? Dim. Pwy fedr rwystro tro fel hyn ? Cyfraith. Pwy sydd yn gwneyd y cyfreithi&u ? Y Senedd, ac arlwyddi sydd ben yno y waith hon, ac am hyny gwae fydd i'r amaethwr, y fuwch y mae yr arlwydd yn odro. Olynodd mab ei dad yn nghanol Cymru y llynedd; dywedodd ei arlwydd wrtho ei fod yn codi £60 yn ei ardreth. " Ni thalaf hi," ebai y bach- gen. " Arian a Uafur fy nhad sydd wedi gwellhau y tir. Cyhoeddaf eich gormes. os gyrwch tì allan, yn mhob newyddiadur." Cafodd lonydd i gael budd o waith ei dad medrus. Mae mab yma wedi dewis myned yn swyddog heddwch yn lle bod yn amaethwr fel ei dad a'i frodyr. Gobeithiai enill mwy ar gyflog o 25 swllt yr wythnos, na thrwy daiu crog-ardreth i arlwydd caled. Mae diwygiad a dilead yr ormes yn nwy- law yr etholwyr Pan gânt gyfle, tua 1901, anfonent aelodau i'r Senedd a wnant ddeddfau i bawb, ac nid i ddosbarthiadau ffafredig, ac a ddi- leant gyfreithiau wnaed gan y Seneddwyr presenol, y rhai a dderbyn- iant wyneb segurwyr ac oferwyr. A Welsoch Chwj Esgob ì—ebai ofteiriad mewn ysgol ddyddiol yn Aberdar. Yr osdd yn awyddus iawn i'r llanciau feddwl a gwybod am y bugail crefyddol ar esgobaeth boblog Llandaf, yr hwn oedd ar brydiau yn bedyddio plant o amryw oed yn eglwysdai Aberdar, a dy- munai ddeall fod rhai o'r hogiau o'i flaen wedi bod dan ei ddwylaw. " Do," ebai un gwridog, llygad-ddu, gwalltwineu, yn llon iawn mewn atebiad. " Da iawn," ebai'r offeiriad. " Pa esgob oedd hwnw a welsoch •chwi, machgeni?" " Esgob y Gadlys." -'Gato pawb! " ebai yr offeiriad. Bedyddiwr oedd y llanc bach, ac yr oedd efe yn ddigon o Ysgrythyrwr i wybod fod ei weinidog enwog, Mr. Evans, y Gadlys, yn «sgob yn ol y Testament Newydd. Cafodd yr offeiriad y fath chwith- dod, fel na feddyliodd am un holiad arall allai ei ofyn, ac aeth allan yn fuan. Ni welwyd ef wedi hyny yn yr ysgol hono. Mae plant ysgol yn maesdref Caerdydd yn cael eu dysgu i ddywedyd celwydd gwyn