Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CENAD HEDD. "A Gwaith Cyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 76.] EBRILL, 1887. [Cyf. VII. "Y DYDD HWNW."* 11 Ac wele dau ohonynt oedd yn myned y dydd 7iwnw i drefa'i henw Emmaus" dr. Luc xxiv. 13-25, 44-47. PREGETH GAN Y DIWEDDAR DDR. REES, CAER. DYDD hwnw," sef dydd adgyfodiad yr Iesu. (Yna aeth y Dr. yn mlaen a thraethodd ar y gwahanol ddygwyddiadau oeddynt yn hynodi " y dydd hwnw.") Sylwodd yn I. Ae Amgylchiadau Neillduol y Dydd Hwnw. (Ac ar nn- waith teimlem ein hunain fel pe yn edrych ar panorama). Awn, meddai, i ben Mynydd yr Olewydd. Ië, dowch, gallwn fyned 0 Fachynlleth yno heddyw, 0 ran ein meddyliau (meddai, yn hynod ysmala) ; ac yno y mae y miloedd pobl yn dyfod o Jerusalem i gyfarfod yr Iesu, a dysgwylient hefyd weled Lazarus, yr hwn, ychydig ddyddiau yn flaenorol, a godasai Efe 0 feirw. Felly eu cywreinrwydd a'u hanogai i fyned yn mlaen ; a miloedd ereill oedd yn eu cyfarfod wrth droed yr Olewydd, y rhai, fel yr Iesu, oeddynt yn myned i'r wyl. A thra yr oeddynt yno yn edrych ar yr Iesu, fe syrthiodd arnynt oll ryw ysbrydegaeth fyw, heb fod dim cyd- ddealldwriaeth rhwng cynifer a dau ohonynt, ac wele hwy, âg un llais, yn rhwygo yr awyr gyda bonllef 0 fawl i'r Iesu, gan ddywedyd, " Hosana i Fab Dafydd." Ac nid hyny yn unig, ond y babanod bychain, y rhai na ddywedasant " Dada" na " Mama" erioed, yn gollwng bron y fam, yn curo eu dwylaw bychain, gan floeddio, " Hosana i Fab Dafydd ! " Dyna beth na ddygwyddodd erioed o'r blaen, erioed ond y pryd hwnw. Ië, y * Pregeth a draddodwyd yn Nghapel y Graig, Machynlleth, boreu Sabbath, Awst 14eg, 1881. Nid oeddym yn bwriadu iddi gael ei chyhoeddi pan yn ei hys- grifenu, ond ar gais y Golygydd parchus y mae yn cael ymddangos. 7 .........,