Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CENAD HEDD. "A Gwaith Gyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 77.] MAI, 1887. [Cyf. VII. PRYNEDIGAETH A GALWAD DDIFRIFOL. |AB y G-yfrol fechan gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Mr. H. Evans, Bala, o ddyddordeb neilíduol, gan y ceir ynddi faterion a achlysurasant ddadl fawr yn Eglwysi Cyraru, ac yn enwedio- yn mhlith yr Annibynwyr, 60 mlynedd yn ol. Yn y rhan gyntaf ohonl ceir ymddyddan rhwng Ymofynydd a Henwr ar " Brynedigaeth," gan y Parch. T. Jones, Dinbych ; yn nghyda nodiadau ar ddau lythyr gan y Parch. J. Roberts, Llanbrynmair, ac ar draethawd gan y Parch. Christmas Evans ar " Neillduolrwydd y Prynedigaeth;" ac yn olaf Cywydd ar yr un pwnc dan yr arwyddair, " Ý Gwir yn erbyn y byd," yr hwn sydd yn anghydweddol iawn âg ysbryd Cristionogol y rhan flaenorol o'r G-yfrol. Yn yr ail ran ceir " Galwad Ddifrifol," sef ateb y Parch. J. Roberts i nodiadau Mr. T. Jones ar lythyrau Mr. Roberts. Ni raid i ni ddywedyd dim am Mr. Roberts, canys cofir ac edmygir ei enw eto yn ein heglwysi; llai fyth y rhaid dywedyd dim am Christmas Evans, canys mae efe yn amlwg, nid yn unig yn Nghymru, ond yn Lloegr ac America, fel gŵr nodedig am ei hyawdledd areithfaol. Gallai fod yn briodol dywedyd rhywbeth am yr ysgrifenwr arall, y Parch. T. Jones, Dinbych, gan nad tebyg ei fod mor adnabyddus'i'n Henwad ni. Ymddengys ei fod yn wr nodedig o dduwiolfrydig, galluog, a dysgedig. Y mae Dr. Owen Thomas, yn ei gofiant i'r Parch. J. Jones* Talsarn, gwaith o allu ac addysg anarferol, ac yn yr hwn y ceir crynodeb wedi ei ysgrifenu 0 Ddadleuon Duwinyddol Lloegr, Cymru, Ewrop, ac America, yn dywedyd am ei lyfr :—" Mae y llyfr hwn yn hynod' vn hanes Dadleuon Duwinyddol Cymru, nid yn unig ollegid y gallu a àr- ddengys, dr cyfoeth 0 Dduwinyddiaeth a geir ynddo, ond yn arbenig oblegid yr ymrysonau a'r teimladau a achlysurwyd trwy y cyhoeddiad ohono." Y pwnc yw " Helaethrwydd yr Iawn." Mae Mr. Jones yn dal mai dros yr etholedigion yn unig y gwnaed yr Iawn ; ond er ei fod yn