Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CENAD HEDD. " A Gwaith Gyfiawnder fydd Heddwoh."—Esaiah. Rhif. 78.] MEHEFIN, 1887. [Cyf. VII. Y GYFLOG SEFYDLOG. ÍLAWER 0 wrthwynebiad sydd gan rai pobl, a'r rhai hyny yn bobl dda, ond yn ddifeddwl ac anwybodus, i'r hyn a adnabyddir fel cyflog sefydlog i'r gweinidog. Adwaenem weinidog ym- adawodd âg eglwys ddeng mlynedd yn ol, am na nodent unrhyw swm beaodol 0 gyflog iddo ag y gallent yn rhesymol gadw ati; ac y mae yr eglwys hono hyd heddyw yn galaru am ei cholled yn gadael iddo ym- adael. Cawsant fachgen da, ar lawer ystyr, i lanw ei le, ond gweinidog canolig wna, er ei fod 0 gymeriad dilychwin ; pregethwr niwliog a di- afael ydyw. Gwyddent hyny yn dda pan roddwyd galwad iddo, ond derbyniasant ef am ei fod yn foddlon i'w telerau hwy, beth bynag fyddent. Bydd gartref yn barhaus, heb neb yn foddlon cymaint a newid âg eí* am Sul, tra y llanwai ei flaenorydd y capel, ac y dotiai yr holl gymydogaethau arno. Ond aeth ymaith, a hyny yn nnig am na wnai rhyw ychydig oedd yno dori dros ben eu rhagfarnau. " 'Dwyf fi ddim yn licio yfix (fixed) yna." " Nid wyf finau yn credu mewn rhoi marc, a gorfodi neb i geisio ei gyrhaedd." " Rhywbeth yn y syniad yn anghymeradwy." " Ewyllys rydd yw hi i fod gyda chrefydd." Rhyw ynfydrwydd fel yna glywid heb un cysgod 0 reswm drosto. Llywodr- aethid y cyfan gan deimlad dall, wedi ei gynyrchu gan bengamrwydd ac anwybodaeth. Baich mawr eu hymresymiad oedd, " Gwellgen i yr hen ddull, ei gadael hi yn rhydd." Nodwn dri 0 resymau dros i bob eglwys enwi swm rhesymol, allu- adwy i'w gyrhaedd, fel cyflog i'w gweinidog, ac nid gadael i bob peth yn rhydd fel y gwneir yn rhy aml. 1. Dwg yr eglwys i deimlo gwerih euhymrwymiadau $w gilydd, a'u cyfrifoldeb cymdeithasol i'r gweinidog. Pan na fydd gair 0 son am gyflog sefydlog, na nod ger bron, ca pob un gyfranu yn hollol wrth ei ewyllys ei hun, heb neb yn sylwi pa un ai 11