Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CENAD HEDD "A Gwaith Cyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 79.] GORPHENAF, 1887. [Cyf. VII. EGLWYS CRIST. ;YWED wrth yr Eglwys." — Rhagwelai Crist yr ymffurfiai credinwyr ynddo yn gynulleidfa, wedi cymeryd rhwymau cyfamod rhyngddynt a'u gilydd, ac yna y byddent yn gymhwys i wrando cwynion a gweinyddu dysgyblaeth foesol ac ysbrydol ar achlys- uron a ofynent hyny. Yr enw a roddes Efe ar y gymdeithas hon ydoedd Eglwys. Gair o'r iaith Roeg, ehhlesia, mewn gwisg Gymreig ydyw ; ecclwys ddylasai ei seiniad fod; ond fe'i tynerwyd ef drwy ddyfod atom drwy enau perseiniol yr offeiriaid Pabyddol, y rhai a'i seinient eglise yn y Ffrancaeg, a chiesa yn yr Eidalaeg. Ei ystyr wreiddiol ydyw cynulleidfa, pobl wedi eu galw allan, torf wedi ymgynull 0 unrhyw leoedd, ac i unrhyw ddyben. Defnyddia Luc y gair Eglwys i ddynodi y gynulleidfa ddaeth yn nghyd yn Ephesus pan wrthwynebid yr apostol Paul, ac y bloeddid, " Mawr y w Diana yr Ephes- iaid," gan yr eilunaddoìwyr cynhyrfedig. Y defnydd mwyaf aml a wneir ohono yn y Testament Newydd ydyw er dynodi pobl yr Arglwydd—y rhai a gredant yn Nghrist fel eu Gwaredwr personol a phroffesedig—a rodiant yn ol ei Ewyllys Ef, ac yn unol â'r Gair—ac a fwynhant ddedwyddwch bendithion gras mewn amser, a choron gogoniant mewn tragywyddoldeb. Dynoda bobl yr Arglwydd mewn tair ffordd:— 1. Cynifer o ddynion a fyddant yn gadwedig yn y diwedd, wedi ter- fynu y preswyliad ar y ddaear, a chau y teulu i fewn yn arch y nefoedd. 2. Cynifer 0 ddynion duwiol sydd ar y ddaear mewn un cyí'nod neu oes. 3. Cynulleidfa unigol 0 dduwiolion mewn cyfamod a chymundeb eglwysig a'u gilydd, yn cydymgyfarfod i addoli mcwn un man neillduol. Ceir y gair Eglwys yn dynodi yr holl gadwedigion, mewn amryw fanau yn y Testament Newydd. Nodwn rai ohonynt:—Heb. xii. 23 ; " I gymanfa a chynulleidfa [neu Eglwys] y rhai cyntafanedig, y rhai a ysgrifenwyd yn y nefoedd." Col. i. 18, 23, gelwir Crist yn Ben y Corfl, 13