Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

# # * v CENAD BEDD. "4 Gwaith Gyftawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 93.] MEDI, 1888. [Cyf. VIII. Y MORWYNION FFOL. MAE ein Llusernau niyn diffodd.—Mor syml yw y geiriau, eto mor ddifrifol a theimladwy. Mor effeithiol y Uefarai y Gwaredwr wrth ddangos y perygl 0 wynebu byd arall yn an- mharod. Nis gallwn feddwl am y geiriau uchod heb anfon i fyny saeth- weddi—" Na fydded raid i ni byth eu defnyddio." Ydym ni mewn perygl o syrthio i'r trueni hwn ? Ydym. Pwy ohonom ? I gyd, yn enwedig y cyfryw dybiant eu hunain bellaf oddiwrtho. Llefara Iesu yma yn erbyn hunandwyll. Dechreua drwy ddesgrifio y sawl a gam- arweinir ac a ddinystrir ganddo. Yn erbyn hunandwyll a gwaghyder y mae y benod i gyd. Perchenogion y Llusernau.—Yn yr hwyr y gweinyddid priodasau. Cyrchai y priodfab y briodferch 0 dy ei rhieni i'w dy ei hun yn gy- hoeddus, gyda phob rhwysg a ganiatäi yr amgylchiadau. Anrhydeddid yr achlysur gan bresenoldeb genethod, y rhai a ymgasglent o gylch drws ty y briodferch, y rhai a groesawent y priodfab gyda swn a gorfoledd mawr, ac a'i gosgorddent ef a'i wraig i'w cartref dyfodol. Yno cyfranogid o wledd gan eu cyfeillion gwa- hoddedig, o'r hon y ceuid estroniaid allan yn ofalus. Hyn ddar- lunir yma. Yr oedd yma bump morwyn yn barod; gyda hwy safai pump açall heb fod yn gwbl barod, yn awyddus ddysgwyl yr un priod- fab, a mwynhau yr un wledd, mewn cyflwr a gwisgoedd cyffelyb. Ysbrydoler yr hanes, yna yr Arglwydd Iesu yw y Priodfab—Person o ras rhyfeddol, yr Hwn a eilw ei Hun yn Briod yr Eglwys, ei Anwylyd, a'i Briodasferch. Nid dynion anystyriol a ddysgwyliant am ddyfodiad y Gwr hwn. Yn mhlith cyfeillion a chymdeithion pobl Dduw y ceir y morwynion, ac yn debyg iddynt, mor debyg fel mai anhawdd adnabod y gwahaniaeth rhwng y rhai ffol a'r rhai call. Mae y ddau fath 0 fuchedd bur, ac wrth bob tebyg 0 galonau ysbrydol, wedi ymwadu â chwantau bydol, ac yn barod i groesawu dyfodiad Mab y Dyn. Gwelwn ffyddlon- deb a manylder yr Athraw Da. i^íid yw yn galw ein sylw at y doff 17