Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CENAD HEDD. "A Owaith Gyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. ioi.] MAI, 1889. [Cyf. IX. GWIR DDIWYGIAD EGLWYSIG. jNI fedrwch chwi arwyddion yr amserau ? " sydd un 0 ofyniadau Gair Duw, ac y mae 0 bwys i ni feddwl am ei ateb yn awr megys cynt. Hawlia sylw pobl Dduw yn arbenig mewn perthynas i bethau y deyrnas ysbrydol. Mae llwyddiant hon i fod yn agosach atynt na dim arall. Teimlwn nad yw y llwyddiant ddim cymaint ag y dylai fod. Mae llawer o bethau yn ymddangos yn galw am ddiwygiad. Mae diffyg yn ngrasusau yr Eglwys.—Dygodd yr Efengyl rin- weddau gogoneddus 0 fewn cyrhaedd i ddyn drwy ffydd nad oeddynt yn ddichonadwy iddo eu meddu drwy gyfansoddiad ei feddwl, nac un ddar- pariaeth i hyny gan natur, megys ffydd gadwedigol yn Nuw, gobaith am y dyfodol am nad oedd addewidion wedi eu rhoddi, na chariad at Dduw na dyn am nad oedd wedi ei dywallt ar led yn y galon. Ond drwy yr Efengyl caed dynion yn ddigon cryfion drwy ffydd i orchfygu y byd, yn ddigon gwrol i wrthwynebu ystormydd creulon drwy rym gobaith yn yr Anweledig fel angor tufewn i'r llen, ac yn caru Dqw nes ymfoddloni aberthu eu bywyd er pleidio ei ogoniant, ac yn caru dynion yn ysbrydol nes aberthu pob cysur daearol er gwneyd eu hiachawdwriaeth dragy- wyddol yn sicr. Mewn llawn feddiant o'r grasusau hyn, yn eu holl gangenau a'u hagweddau, y mae Seion yn ei harfogaeth wedi gorchfygu ar bob maes, ac yn cyfrif ei buddugoliaethau wrth y llengoedd. Nid ydynt yn awr mor amlwg yn yr Eglwys ag y buont, nac y dymunid iddynt fod. Ni ddywed y gelynion fel gynt am y saint, " Wele fel y maent yn caru eu gilydd; " ac ofnwn na fedr neb dystio fod eu ffydd a'u gobaith yn ddigon i'w dwyn yn ddiofn a chalonog drwy bob gwarth a dyoddefaint. Mae eisieu cyflaumi dyledswyddau crefydd yn well.—Gwelir anmhár- odrwydd mawr mewn proffeswyr i gymeryd rhan mewn addoliad