Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CENAD HEDD. "A Gwaìth Gyfiawnder fydd Hbddwch."—Esaiah. Rhif. 127.] GORPHENHAF, 1891. [Cyf. XI. CWR Y FANTELL YN LLE PEN Y BRENIN. '' A gwýr Dafydd a ddywedasant wrtho ef, Wele y dydd am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd wrthyt, Wele fi yn rlwddi dy elyn yn dy law di, fel y gwnelych iddo megys y byddo da yn dy olwg. Yna Dafydd a gyfododd, ac a dorodd gẃr y fantell 0edd am Said yn ddirgel."—1 Sam. xxiv. 4. jR oedd golwg mawr wedi bod unwaith gan Saul ar Ddafydd. Dafydd yn unig oedd yn gallu gyru ymaith yr ysbryd drwg oedd yn ei flino. Diamheu nad oedd llawer 0 delynwyr ereill i'w cael yr adeg hono, ond y Bethlehemiad â'i delyn a'i gerddi oedd yr unig rai a fedrai yru yr ysbryd drwg ar ífo ! Grwnaeth hyn Ddafydd yn íFafryn yn y llys, a chafodd ei godi yn fuan i fod yn gludydd arfau, ac yn dywysog ar fil. Yr oedd yn deilwng 0 bob codiad, yn dal pob dyrchafiad, ac yn llanw pob cyleh, nes oedd codiadau uwch yn ei aros 0 hyd, a chylchoedd eangach fel yn ymagor iddo ohonynt eu hunain. Wedi lladd Goliath y cawr, a chael merch y brenin yn wraig, cafodd ei wneyd yn llywydd ar warchodlu y brenin, yr hyn oedd yn ei osod yn ogyfuwch mewn swydd ac urddas ag Abner y cadfridog, a Jonathan, etifedd ymddangosiadol y goron ! Yr oedd Saul yn eithaf boddhaus tra yr oedd y dyrchafiadau mawrion hyn yn hollol yn ei law ei hun, ond pan aeth y bobl i ddyrchafu Dafydd, digiodd yn ddirfawr, a thrödd yn elyn iddo. Yr oedd hyd y nod cân geoedlaethol y bobl yn annyoddefol i'r brenin. " A'r gwragedd wrth ganu a ymatebent ac a "ddywedent, Lladdodd Saul ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiwn." Dyna achlysur y drwg a dechreuad yr elyniaeth. " A bu Saul a'i lygad ar Ddafydd o'r dydd hwnw allan " (1 Sam. xviii. 9). Poblogrwydd Dafydd am orchfygu gelynion y brenin a gelynion y genedl a wnaeth y gelyn gwaethaf iddo ef ei hun! Am ei weithredoedd goreu mae dyn yn aml yn gorfod dyoddef fwyaf. Wedi i Iesu adgyfodi Lazarus oddiwrth y meirw y brysiwyd i'w roddi i farwolaeth ! Ac wedi i Grist farw yn Iawn y dihunodd y byd i ymosod ar ei achos ! Modd bynag, ar ol cryn amser a llawer 0 ystryw ac erledigaeth—0 ymofidio a dianc—mae Saul a Dafydd yn awr yn 13