Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cyf. I. GOSPJiEfiÄF, 1900. Hhif 4. DELFRYDAU CREFYDDOL Y PENl ECOST. tDDIWRTH hanes dydd y Pente. cost, ni a welwn y dichon llwyddiant gymeryd lle yn anisgwyliadwy. Nid oedd dim ond cywreinrwydd wedi dwyn y dyrfa fawr yn nghyd, er mwyn gweled a chlywed y disgyblion yn llefaru mor ddoniol mewn gwa- lianol ieithoedd. Nid oedd y disgyblion eu hunain, o bosibl, wedi meddwl yn flaenorol y cawsent y fath gwrdd, nac yn tìisgwyl, efallai, am y fath lwyddiant. Yi oedd Pedr wedi pregethu lawer gwaith o'r blaen heb weled llwyddiant mawr; ac yr oedd wedi clywed eî Athraw mawr, yn pregethu i dyrfaoedd, a'r rhai hyny, yn lle edifarhau, yn ymgynddeiriogi mewn gelyniaeth tuag ato. A dichon, nad oedd dim rhag-arwyddion ar ddechreu y cwrdd hwn nad rhyw ganlynLad cyffelyb a fydd- 'ii iddo. Ond, yr oedd llaw Duw yn cy ffwrdd a chalonau tair mil; a'r rhai a 'ldaethant i'r cwrdd yn elynion cyndyn i (írist, yn myned o hono yn ddisgyblion dychweledi'g. Y mae troion cyffelyb wedi digwydd lawer gwaith or ol hyny; a gall- wn ddisgwyl pethau cyffelyb eto. (ìwelwn hefyd, y gall Ilwyddiant mawi gymeryd lle ar unwaith. Nis gwyddom I>a nifer oedd yn y gynulleidfa; ond yr °edd tair mil eu hunain, yn gynulleidfa fawr. Y mae mor hawdd i'r Efengyl ar- gyhoeddj tair inil ag argyhoeddi un. Y mae llwyddiant yn addawedig. "Pwy a glybu y fath beth a hyn? Pwy a welodd y fath bethau a hyn? A wneir i'r ddaear dyfu mewn un dydd? A enir cenedl ar unwailh? Pan glafychodd Seion yr esgor- odd hefyd ar ei meibion." Wrth weled y fath lwyddiant, y ìiae Seion yn gofyn mewn syudod, "Pwy a genhedlodd y rhoi hyn i mi, a mi yn ddi- epil, ac yn unig, yn gaeth, ac ar grwydr? A phwy a fagodd y rhai hyn ? Wele myfi a adawyd fy hunan ; o ba le y daeth y rhai hyn?" A'r ateb a ro'ir iddi' yw hyn : — ''Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Wele, eyfodaf fy llaw at y cenhedloedd, a dyrchafaf fy nianer at y bobloedd; a dyg- ant dy feibion yn eu mynwes, a dygir dy ferched ar ysgwyddau. Brenhinoedd hefyd fydd dy dadmaethod a brenhinesau dy fammaethod; crymant i ti a'u gwynebau tua'r llav\T, a Ilyfant lwch dy draed; a chei wybod mai mytì yw yr Arglwydd; canys ni chywilyddir y rhai a ddisgwyl- iant wrthyf fi." Beth a ddywedwn m wrth y pethau hyn? Onid ydym yn rhy gyfyng o lawer yn ein disgwyliadau, a'n ffydd yn rhy ddiffygiol yn y moddion? Y mae yr Efengyl, gyda dylanwad Ysbryd Duw, yti alluog i ddychwelyd, nid un neu ddau yn awr a phryd arall, ond miloedd ar unwaith. Gan hyny, '"anturiwn bethau mawrion dros Ddnw, a disgwyliwn beth- au mawrion oddiwrth Dduw."