Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

JMnwgM. Cyf. II. MAWETH, 1886. Rhif 15. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, JLA., BANGOR. RHIF XV. " Yr hwn sydd yn gweithio poh peth wrth gyngor ei ewyllys ei hun." Eph. i. 11. Yn yr adnod hon y mae yr Apoetol yn edryeh ar ' bob peth' oddiar safle wahanol i'r hon yr edrychai arnynt yn yr adnod flaenorol. Y mae y gwahaniaeth rhwng y ddwy adnod yn codi oddiar y gwahaniaeth rhwng y ddan safle, a chysylltiad y ddwy adnod ydyw perthynas y ddau safle â'u gilydd. Safle yr Apostol yn y lOfed adnod oedd Person Crist. O'r fan hono fe welodd bob peth wedi eu crynhoi ynddo, ond o'r holl bethau fe welodd rai, sef credinwyr, mewn perthynas nes â Christ na phobpeth arall, yn gymaint a'u bod wedi eu dewis hefyd ynddo ef. Safle yr Apostôl yn yr adnod hon ydyw bwriadau Duw. O'r fan hon fe welodd fod pob peth a wnaethpwyd gan Dduw wedi ei wneuthur yn ddi- wahaniaeth ac yn ddieithriad yn ol cyngor ei ewyllys. O'r safle gyntaf, y mae perthynas credinwyr â Pherson yr lesu yn nes na pherthynas pethau erailí âg ef; o'r ail, y mae perthynas credinwyr ar yr un tir à pherthynas pob peth arall â chyngor Duw. Cysylltiad y ddwy adnod â'u gilydd yw, y berthynas sydd rhwng Person yr Iesu â bwnadau Duw. Ni a gymerwn yn bresenol fwriadau Duw yn safle i edrych ar bob peth. O'r fan hono gwelwn Dduw yn gweithio pob peth wrth gyngor ei ewyllys ei hun. Gweithio yw gweithrediad gallu. Fe all fod yn allu corff, neu yn allu ysbryd ; ond gan mai Ysbryd yw Duw, heb gorff, gweithrediad gallu ysbryd sydd yma yn gweithio pob peth. "Wrth daflu golwg ar weithredoedd Duw, yr hyn sydd yn taro sylw yn gyntaf ac yn benaf yw, eu hamrywiaeth, a hwnw yn amrywiaeth nas gallwn weled ei derfyn. Y mae hyn yn ymddangos yn amrywiaeth y pethau a greodd, ac yn amrywiaeth ei ddull o weithredu arnynt a thrwy- ddynt. Y mae yr holl bethau a greodd yn cael eu dosbarthu i'r hyn sydd yn amddifad o fywyd, ac i'r hyn sydd yn meddu ar fywyd. Y mae y bywydol drachefn yn ddosbarthedig i'r rhai hyny sydd yn perthyn i greaduriaid cyfrifol, a rhai heb fod yn gyfrifol. Y mae y naill yn cyn- wys y bywyd lîysieuol ac anifeilaidd, a'r llall y bywyd rhesymol ac ysbrydol. Ÿ mae y dosbarthiad hwn yn Feiblaidd, fel y gwelir yn Ioan i. 3, 4; yn gyntaf, pob peth yn yr ystyr ehangaf ; yna o'r pob peth y mae yn dethol bywyd, pob bywyd ; yna o'r bywyd yn craffu ar yr hyn sydd yn perthyn yn neillduol i ddynion, " a'r bywyd oedd oleuni dynion," Edrychwch eto i blith dynion, y mae gwahaniaeth rhwngpob dau wyneb,