Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Jlaántrgdá. Cyf. III. RHAGF\R, 1887. Rhif 35 Y LLYTHYR AT YR EPHESIAÍD. GAN Y PARCH. D. CHAELES DAYIES, M.A., BANGOR RHUF. XXXVI. " Ië, pan oeddym feirw mewn camweddau, a'n cydfywhaodd ni gyda Chrisfc <trwy ras yr ydych yn gadwedig), ac a'n cydgyfododd, ac a'n gosododd i gyá- eistedd yn y nefolion leoedd yn Nghrist Iesu. '—Eph. ii. 5, 6. Y mae yr Apostol yn darlunio mawredd cariad, trwy ddarlunio mawredd y cyfnewidiad y rnae cariad yn ei wneyd ar ei wrthddrychau. Y mae j darluniad o'r cyfnewidiad yn cynwys eglurhad, yn gyntaf o'r sefyllfa y codir ef o honi, ac yn ail o'r sefyllfa y codir ef iddi trwy yr efengyl. Y mae tair adnod gyntaf y benod yn dangos y sefyllfa y.n yr hon y cafodd «ariad afael ar ddynion, ac o'r hon y codir hwynt; y mae y bumed aír chweched yn dangos y sefyllfa i'r hon y codir, ac y gosodir hwynt gan gariad. Y mae y pellder rhwng y ddau eithafnod yn dangos hyd y ffordd sydd yn eu cysylltu â'u gilydd ; ac y mae hyd y ffordd yn dangos y draul yr aed iddi i'w gwneuthur. Y mae y bedwaredd adnod yn hysbysu maî ar draul Duw y gwnaed hi, a'i fod ef yn ddigon cyfoethog i ddwyn ý draul—" cyfoethog o drugaredd." Y mae y testyn yn dangos y sefyll£a i'r hon y mae cariad Duw yn codi ei gwrthddrychau. Y maent yn cael eu cydgyfodi gyda Christ, ac yn cael eu gosod i gydeistedd gyda Christ ya y nefolion leoedd. Y mae hyn yn cynwys eu bod yn eistedd yn awr fcl rhai yn meddu ar fywyd, ac yn dangos mai Duw a wnaeth i ni eistedd, gan mai efe a'n bywhaodd ni. Y mae yn ainlwg fod y gair " ni" yma yn cyfeirio at dduwiolion, ac felly yn cau allan yr esboniad sydd yn dweyd mai holl feddwl y geiriau yw ein bod ni yn y nefoedd o ran ein. natur, am fod ein natur ni yno yn mherson Grist, oherwydd y mae Crist yn y nefoedd yn natur yr annuwiolion yn gystal ag yn natur y duwiolion. Ni byddai na braint na chysur i neb wybod fod ei natur mewn gogoniant, -a'i berson ei hun yn golledig. Ni fydd yn un cysur i ddamnedigion wybod, fel y cânt wybod, fod un yn eu natur yn meddu awdurdod ar nef, daear, ac uffern, tra y mae eu personau eu hunain dan felldith. Y mae