Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

%MmmÛâ. Cyf. V. HYDREF, 1889. Rhif 58. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAÍD. GAN T PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., TREFECCA. RHIF LVIII. " Mai trwy ddatguddiad yr hysbysodd efe i mi y dirgelwch (megis yr ysgrif- enais o'r blaen ar ychydig eiriau, Wrth hyn y gellwch, pan ddarllenoch, wybod fy neall i yn nirgelwch Crist." Eph. iii. 3, 4. Y mae yr apostol, yn y paragraff hwn, yn son am ddau ddirgelwch. Un yw, cydraddoldeb y cenhedloedd a'r Iuddewon yn mendithion yr efengyl (adn. 6, 7); a'r llall ydyw yr un a elwir yma yn " ddirgelwch Crist." Meddwl yr ymadrodd hwn yw " Y dirgelwch, sef Crist." Yn y Llythyr at y Colosiaid i. 27, y mae yr apostol yn bendant yn galw Crist ei hun yn ddirgelwch ; ac felly hefyd yn 1 Tim. iii. 16. Dangosir fod cysylltiad rhwng y ddau ddiigelwch â'u gilydd, cymaint a hyn, fod dirnadaeth yr apostol o'r naill yn profi ei fod yn dirnad y llall,—fod ei ddirnadaeth o dderbyniad y cenhedloedd i'r eglwys, yn profi ei fod yn dirnad dirgel- wch person Crist ei hun. Y cysylltiad rhyngddynt y mae yn ei enwi yn y Llythyr at y Colosiaid y w, mai dirgelwch person Crist oedd pwnc mawr ei bregethau i'r cenhedloedd. Ond yma dengys fod ei ddirnadaeth eglur o'r naill yn profi ei ddimadaeth o'r llall. Y mae hyn yn cynwys mai mewn golwg ar berson Crist y gwelodd Paul nad oedd gwahaniaeth rhwng Iuddew a Groegwr. Y mae y geiriau, " Megis yr ysgrifenais o'r blaen," yn cyfeirio sylw yr Ephesiaid at yr hyn a ysgrifenwyd o'r blaen ar y pwnc yn y benod gyntaf. Ac wrth ddarllen hyny, y mae yn temilo sicrwydd y gwêl y darlîenwyr ei fod yn deall perthynas yr efengyl â'r cenhedloedd, sef â hwynt eu hunain. Ac y mae yn enwi hyny fel prawf ei fod yn deall dirgelwch person Crist ei hun. Sylwir L, Am fod person Crist yn ddirgelwch, yr oedd yn rhaid i Dduw ei ddatguddio. II. Am fod Duw wedi ei ddatguddio, y mae yn bosibl i bechadur ei ddeall.