Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

totermld. Cyf. VI. MEDI, 1890. Rhif 69. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., TREFECCA. RHIF LXIX. " Oherwydd hyn yr wyf yn plygu fy ngliniau at Dai ein Harglwydd Iesu Grist, o'r hwn yr enwir yr holl deulu yn y nefoedd ac ar y ddaear." Eph. iii. U, 15. Y mas "oherwydd hyn " yr un gair ag "er mwyn hyn" yn yr adnod gyntaf; ac y mae yr adnod hon a'r adnodau canlyncl yn barhad o'r frawddeg a ddechreuwyd yn yr adnod hono. Y mae yr holl adnodau rhyngddynt yn esboniad ar yr adnod gyntaf, ac i'w hystyried megis rhwng cromfachau. Y mae " oherwydd hyn " gan hyny yn ein cymeryd i'r benod fiaenorol. Y gwir sydd yn hono yw, fod y cenhedloedd wedi credu yn Nghrist, ac wedi eu gwneuthur, trwy hyny, yn genedl sanct- aidd,—yn deulu ac yn deml Duw. " Oherwydd hyn," gan eich bod yn dduwiol, yr wyf yn gweddio ar i chwi fwynhau yn mhellach y breintiau canlynol. Yn y cysylltiad â'r benod flaenorol y mae priodoldeb y gair ' Tad ' a ' theulu' yn ymddangos. Sonir yno am eu dyfodiad at y Tad, a'u gwneyd yn deulu Duw. Felly, y mae yn gweddio drostynt yn ysbryd a theimlad un yn gweddio dros ei frodyr. Yn yr adnod gyntaf, y mae yn rhoddi pwys ar ei fod ar y pryd yn garcharor Iesu Grist drostynt. Yr oedd ei garchariad drostynt, a'i weddi drostynt, yn gysylltiedig yn ei feddwl. Yr oedd ei garchaiiad drostynt yn profi fod ei weddi yn ddi- ffuant. Gwneuthur a dioddef yn unig sydd yn profi diffuantrwydd gweddi. Y mae y dyn sydd yn gofyn " maddeu," heb geisio gochel ei bechod, yn twyllo ei hun—nid oedd yn gofyn am faddeuant o'i galon. Os ydym yn ddiffuant yn ein gweddi, rhaid i ni brofi hyny trwy ein gwaith a'n .dioddefiadau. Yr oedd ei weddi drostynt yn y carchar yn