Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Jîatargdi Cyf. VI. TACHWEDD, 1890. Rhif 71. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAN T PARCH. D. OHARLBS DAVIES, M.A., TRBFECCA. Eflí F LXXI. " Ar fod Crist yn trigo trwy ffydd yn eich calonau chwi."—Eph. iii. 17. Y mae y geiriau hyn yn rhan o weddi Paul, pan yn garcharor yn Rhufain, dros y cenhedloedd yn Ephesus. Yn niwedd yr ail benod, y mae yn darlunio pa fath oedd y dynion y deisyfodd fel hyn drostynt. Dengys y darluniad hwnw yn amlwg eu bod yn ddyn- ion duwiol, ond fe'n dysgir mewn rhanau eraill o'r Beibl, yn enwedig yn Rhufeiniaid viii., fod beudithion ysbrydol wedi eu sicrhau i'r rhai sydd yn Nghrist. " Os plant etifeddion hefyd," " Yr hwn nid arbedodd ei briod Fab, pa wedd gydag ef hefyd na ddyru efe i ni bob peth." Ond er eu bod wedi eu sicrhau, ac er y gwyddai Paul eu bod wedi eu sicrhau, ni a'i cawn yma wedi plygu ar ei liniau yn crefu ar Dduw eu rhoddi iddynt. A oes yma ryw anghysondeb yn ngwaith Paul yn gweddio ar Dduw am iddo roddi y bendithion ag y gwyddai eu bod yn sicr iddynt ? Nid oedd Paul yn teimlo fod yma anghysondeb. Oherwydd yn Philippiaid i. 6, ceir eí' yn datgan ei hyder y gorphenid y gwaith oedd wedi ei dde^hreu ynddynt hyd ddydd Iesu Grist; ac yn adn. 8—10, y mae yn gweddio ar iddo gael ei orphen. Am hyny, nid yw y sicr- rwydd sydd am fendithion ysbrydol i gredinwyr y fath o ran ei natur ag sydd yn gwneuthur gweddio am danynt yn afreidiol. A'r rheswm yw fod yn anmhosibl i unrhyw fendith a rydd Duw i gredadyn darddu o un man ond o ras rhydd a phenarglwyddiaethol. Ós ydynt yn sicr, gras Duw a'u gwnaeth felly. Ac y mae yn groes i bob rheswm i ni dybied i raswneuthur trefn i sicrhau bendithion yn y íath fodd ag i ddileu ei hun—neu fod gras yn nhrefn yr efengyl yn hunanleiddiad. Y mae yn wir fod Duw yn cyfranu pob bendithion yn yr Iawn yn unol â chyfiawnder ei natur, a bod eu cyîranu i gredadyn yn weithred o gyfiawnder â'r Arglwydd 11