Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

î? Süaömer^bò. Cyf.XXIL] MEHEFIN, 1906. [Rhif258 Crvnhodeb o Ddarííthíati Dr. Lewís Edwards yn Athrofa y Baía,—1873-4. Darlith VI.—Person Crist. Cymeraf y ddau air diweddaf o Hooker, gan fod1 yn anhawdd eu cadw ar wahan ; abiaiperioç— anwahanol, ac ao-i'y^irwç — gwa- haniaethol neu ddigymysg. Y mae rhai yn myned ymhell iawn wrth son am ymddarostyngiad yr ail berson, hyny yw, y maent yn priodoli gormod i'r person dwyfol—yn adeiladu ar eiriau fel y rhai yn y llythyr at y Philippiaid, " Efe a'i dibrisiodd ei hun," yn ■ ol y Cyfieithiadi Diwygiedig, " Efe a'i gwaghaodd ei hun." Y mae y Dwygwyr yn cymeryd yr " Efe " i olygu y person dwyfol, .nid dyndod Crist ond ei ddwyfoldeb. Y mae y Lutheriaid vn ei gymeryd i olygu y dynol. Fe ä ysgrifenwyr diweddar mor bell .a dweyd fod y person dwyfol yn gwaghau ei hun o'r priodoliaeth- au a berthynant iddo fel Duw, ac yn cyfyngu ei hun i gylch dyn- 'OÜaeth. Ac y mae Ebrard a Bushnel yn myned mo'' bell a dweyd fod Duw wedi dioddef yn Nghrist. Y mae rhywbeth yn ddirgelaidd iawn yn hyn: nid wyf yn gallu ei amgyffred. Y mae yr ymadroddion Ysgrythyrol yn gryfach o lawer na'r rhai a arferir genymi ni. Dywedwn ni ei fod wedi cymeryd natur ddynol i undeb a'i berson dwyfol, ei fod wedi ychwanegu ato ei hun yr hyn nad oedd yn perthyn iddo o'r blaen. Ond y mae yr ym- adrodd, "y Gair a wnaethpwyd yn gnaẁd," Efe a ddaeth yn rhyw- "beth nad oedd o'r blaen. Y mae yr ymadrodd hwn yn gryfach ^ia'r rhai a ddefnyddiwn ni. Eto yr wyf yn meddwl fod Ebrard', Bushnel, ac eraill, yn.myned yn rhy bell; a dyma duedd y Diwyg- wyr, Calfin ac eraill, i ddarostwng y Duwdod, neu y dwyfol yn mherson Crist. Nid wyf yn amheu nad; oes ystyr i hyn. Y mae y Lutheriaid o'r ochr arall yn tueddu i ddyrchafu y ddynoliaeth yn mherson Crist, ac y maent yn cytuno a'r gredo (f.orni of ■ concord) Communicatio Idiomatum, cydgyfranogiad y priodoledd- au. Y mae hyn yn wir mewn un ystyr, am fod y Beibl yn cym- hwyso priodoliaethau y Duw a'r dÿn at y person: ond aiff y Lutheriaid yn mhellach i gredu yn nghydgyfranogiad y natur- iaethau, ac ar y golygiad hwn y sylfaenant yr athrawiaéth o Gyd- :5ylweddiad. Y mae rhywbeth yn y golygfiad! Lutheraidd; ond