NODIADAU AR LYFRAU. 349 sefydlu ei deyrnas ymhlith y Samariaid; ac yna os boddlonid y cenhadau yr oeddynt, fel cynrychiolwyr yr apostoilon yn Jerusalem, i gadarnhau der- byniad y Samariaid. Tipyn yn anhawdd oedd i'r apostolion gredu am y Samariaid ; ond pa le bynag yr arweiniai Ysbryd Duw, nid oedd ganddynt • hwy ond ufuddhau a dilyn. 15. "Y.r Ysbryd Glan." Nid yr Ysbryd Glan yn ei ddoniau achubol a feddylir; ond rhywbeth tebyg i'r hyn ddisgynodd ar yr eglwys ar ddydd y Pentecost. 17. "A hwy a dderbyniasant yr Ysbryd Glan." Yr oedd hyn yn brawf fod Duw yn estyn i'r dychweledigion hyn holl freintiau ei eglwys. 18—25. Twyll Simon yn cael ei ddangos. 18. Dengys yr adnod yma fod dylanwadau yr Ysbryd Glan yn rhywbeth gweledig, a chredai Sirnon y medrai yr apostolion roddi y galíu hwn iddo ef •' Efe a gynygiodd iddynt arian'' Nid oedd ei galon wedi ei chyf- newid ; cymheîlion hunanol yn unig a ddylanwadent arno. 30. " Dawn Duw." ' Rhad rodd Duw.' Nid oedd calon, diben Simon yn gywir yn nghyfrif Duw. 22, 23. Y mae Pedr yn ameu a wna gweddi Simon ddangos edifeirwch digonol i haeddu maddeuant. Y mae Pedr yn ofni na chai faddeuant, nid am na faddeua Duw i'r gwaethaf, ond am fod y drwg wedi meddianu y swynwr. " Bustl chwerwder." Y chwerwder mwyaf eithafol, peryglus. " Rhwymedigaeth anwiredd." Anwiredd wedi ei rwymo, fel nas medrai ddianc o'i gadwynau. 24. " Gweddiwch chwi." Credai y byddent hwy yn fwy tebyg o gael eu gwrando nag ef. Nid yw yn gofyn am gael ei waredu o rwymau ei bechod. ond rhag y gosb oedd yn ei fygwth yn nghondemniad Pedr. D}nved traddodiad i Simon fyned o ddrwg i waeth, ac iddo droi allan yn un o brif wrthwynebwyr Cristionogaeth. ŵ ŵ ŵ NODIADAU AR LYFRAU Ceinion y Gyngrlianedd. Gwaith Barddonol R. Ingram, Bedlinog. Rhymni a New Tredegar : J. Jacobs a'i Gwmni. Llyfr swllt ydyw hwn o farddoniaeth dda, gan mwyaf yn y mesurau caethion, ac ambell ddarn gweddol dda yn y mesur rhydd. Cana yr awdwr yn glir a synwyrol fel y dengys y ddau englyn hyn : — Y Pregethwr. loan y Disgybl Anwyl. Dros Waredwr siarada—disorod I'r byd rhyw gerub-awdwr—oedd Ioan Seraph yr areithfa; Ddiwyd Efengylwr; Aur enau'i ddydd, "y rhan dda" Fe glywodd ef, y gwylaidd wr, I euogion gynygia. Guriadau bron Gwaredwr.