Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cyf. XXIII] MEDI, 1007. [Rhif W3. NODIADAU AMRYWIOL. Deddfau nid oeddynt dda. Cydnabyddir yn gyffredin, mai un o'r esboniadau goreu ar Lyfr y Proffwyd Ezeciel ydyw gwaith Dr. C. M. Cobern o'r America. Y mae yn wynebu anhawsderau yn deg, ac yn tafiu llawer o oleuni ar ranau tywyll y llyfr, er yn gadael aml gwestiwn anhawdd heb ei benderfynu. Un o'r rhanau anhawddaf ydyw y geiriau hyn : " Minau a roddais iddynt ddeddfau nid oeddynt dda, a barnedig- aethau ni byddent fyw ynddynt: ac a'u halogais hwynt yn eu hoffrymu, wrth dynu trwy dan bob peth a egoro y groth, fel'y dinystriwn hwynt; fel y gwybyddent mai myfi yw yr Arglwydd " (Ez. xx. 25, 26). Y cwestiwn yma ydyw,—Beth s'ydd i'w ddeall wrth y " deddfau nid oeddynt dda," a'r ''barnedigaethau ni bydd- ent fyw ynddynt?" Nid yw yr awdwr yn ateb yn uniongyrchol beth oeddynt, ond y mae yn gofyn tri chwestiwn awgrymiadol fel hyn,—" Ai rhyw reolau neu oddefiadau o eiddo Moses oherwydd calon-galedwch y genedl oeddynt?" Neu, Ai gorchymyríion bienhinoedd annuwiol oeddynt, fel y cyfeirir at " ddeddfau Omri a chynghorion Ahab " (Mic. vi. 16). Neu, Ai y barnedigaethau a'r aflwydd a ddygodd eu pechodau arnynt a feddylir wrthynt? Tybia Df. Cobern nad oes angen penderfynu beth oeddynt, ond eu bod yn rhywbeth a ddygodd Duw arnynt fel canlyniad'eu tros- eddau. Y ddeddf ydyw, y gall yr un peth fod yn fendith i un ac yn felldith i'r llall—yr un moddion yn arogl bywyd i fywyd i un, ac yn arogl marwolaeth i farwolaeth i'r llall. Ond y geiriau y mae mwyaf o anhawsder yn perthyn iddynt yw y rhai sydd yn dilyn, " Ac a'u halogais hwynt yn eu hoffrymau, wrth dynu trwy dân bob peth a egoro y groth." Er yn'addef fod yma gyfeiriad at aberthau dynol, et'o nid yw yn credu gyda Kuenen, Wellhausen, Smeud, ac eraill, fod Duw wedi bod yn gofyn aberthau dynol gan yr Israeliaid. Ni ofynodd y Jehofah erioed i ddynion aberthu eu plant, er ei fod yn dweyd ẁrth yr Isiaeliaid mai ei eiddo ef yw pob cyntafanedig, ei eiddo ef nid i'w lladd yn aberth, ond i fyw yn ei wasanaeth, gan ei fod yn cymeryd y Leáaid yn lle cyntafanedigion Israel. Yr esboniad ydyw hyn. ûarfu i'r îsraeliaid wrthod Duw a'i wasanaeth, a dewis Moloch vn ei le : wrth ddewis Moloch yr oeddynt yn dewis ei ordeiniadau, ac felly yn rhwym o dynu eu plant trwy dân fel ebyrth iddo. Y canlyniad o hyny oedd dinystrio eu hiliogaetb ac anmhoblogi y