Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

BÀRDDONIAETH. 119 Y mae Uawer o diroedd yn y brif-ddinas ag oedd hanner can' mlynedd yn ol yn werth tair punt y cyfair fel porfa gwartheg, yn bresenol yn dwyn i mewn o bymtheg cant i ddwy fil o bunnau yn fìynyddol! Chwanegwyd eu gwerth fel hyn trwy adeiladu arnynt. GOFYNIADAU I DRINDODWYR. Foneddigion hynaws, Wrth ddarllen gwaith rhai o honoch, a gwrando eraill yn pregethu, yr wyf wedi rhy- feddu lawer gwaith paham yr ydychyn gosod pwnc mor bwysig ag athrawiaeth y Drindod, i ymddibynu ar beth na ŵyr yr annysgedig ddim am dano, sef ar arferiad a phriod ddull yr iaith Hebraeg. Yr wyf fi yn ddyn anllyryrenog, ac nis gwn pa gymaint o honoch chwi sy'n deall yr Hebraeg Wrth eich clywed, tueddir fì weithiau i feddwl eich bod chwi yn barnu fod ein cyfieithiad Cymraeg yn feius—y dylid ei wella—acynlle "Duw," iddarllen"Duwiau." Ond etto, yr wyf yn gweled, na fuasai hyuny yn atteb eich tro. Dywedwch fod y gair " Duw" yn yr iaith wreiddiol (elohim) yn lluosog ; a thrwy hyn- ny, yn profi trindod o bersonau mewn undod. 1. Yn awr, paham nud ellir profi fod Moses, yn ôl yr .un iaith, yn drindod o bersonau ? Exod. iv. 1G., vü. í.; aSamuel? 1. Sam. xxviii. 13, 14. 2. Fa hawl sydd gennych oddiwrth y gair lluosog (clohim), i ddal tri pherson dwyfol, yn fwy nâ'r Pagan a'i 30 mil o dduwiau ? 3. Paham na baech, mewn gweddi, yn anerch eich Creawdwr mewn ffurf luosog— a ddyweyd, " Chwi y rhai ydych Dad, Mab ac Ysbryd Glan;" yn lle " tydi yr hwn wyt Dad, Mab, &c. ?" Ni fuasai y naill ddull ddim yn fwy dyeithr i iaith y Bibl, nâ'r llall. Deisyfaf gael attebion teg i'r gofyniadau uchod mor fuan ag y byddo yn gyfieus i chwi wneyd hynny. Ydwyf, yn ostyngedig, Ebrill 21, 1*849, Ymofynwr Glynnedd. ATEBIAD I OFYNIAD PLATO, Tudal. 95. A gadael fod y "dernyn o gopr petrual yn 12 modfedd o drwchymmhob ffordd, a'i weithio yn wefr (icire) o 18 fed ran o fod- fedd ei dryfesur", ac heb ddimcolled o'r def- nydd; hyd y Wefr fydd 19801 o latheidiau. Neu 11 milldir. 441 llath. 1 droedfedd. 1| modfedd yn agos iawn. W. Thomas, Penybont. Derbyniwyd yr un atteb oddiwrth T. R. Twyn y Wig. BARDDONTAETH. ADDYSGIAETH yng nghymru. Mawr yw'r sôn sydd am ddysgeidiaeth, Yng Ngwalia wyllt, Ac am blanu pren gwybodaeth, Yng Ngwalia wyllt. Tafìwyd saeth at graig y fagddu, Er ys talm orchuddiai Gymru, Gan *Foneddwr wedi' fagu, Yng Ngwalia wyllt. Rhyngwyd bodd i wneyd archwiliad, Yng Ngwalia wyllt. Am ddysgeidiaeth helaeth holiad, Yng Ngwalia wyllt. Daeth dirprwywyr lawr o'r Senedd, 'Iloeddynt meddynt yn ddiduedd, Cafwyd fod rhyw dwyllwch rhyfedd, Yng Ngwalia wyllt. Mynwn, meddai Senedd Prydain, Yng NgwTalia wyllt. Rhoddwn ran o'r draulein hunain, Yng Ngwalia wyllt. Wreiddiol addysg hael i'r gweiniaid, Dan olygiaeth yr Offeiriaid, I gael codi ail Atheniaid, Yng Ngwaíia wyllt. Nage, meddai'r ymneullduwyr, Yng Ngwalia wyllt, 'D oes dim eisieu dysg eglwyswyr, Yng Ngwalia wyllt. 'R ydym ni am gael 3'sgariaeth, Rhwyng yr eglwys a'r wladwriaeth, Dim i ni ond anghydffurfiaeth, Yng Ngwalia wyllt. Tro'wd y pwnc o ddysg i grefydd, Yng Ngwalia wyllt. Mogwyd amcan y cynnygydd, Yng Ngwalia wyllt. Tra bu'r pleidiau yn ymgeintach, P'odd rhoid Cymry'n ddysgedicach, Y tywyllwch aeth yn d'wyllach, Yng Ngwalia wyllt. Cafwyd yn lle addysg hyddoeth, Yng Ngwalia wyllt, Pleidwyr llym a rhagfarn benboeth, Yng Ngwalia wyllt. Dim secta'-iaeth i'r eglwyswyr, Dim o'r eglwys i'r neullduwyr, Yn y diwedd dim ond awyr, Yng Ngwalia wyllt. Cicmdu. Dewi Dawel. » Mr. "W. "Williams, gynt A.S, dros Goventry.