Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

70 DEWI DAWEL. gair neu weithred angharedig i'r chwaer yna ymddangos yn beth bach yn awr ; ond cofiwch y gall fod yn gychwyniad cymeriad a wna bawb ydynt yn agos ac yn anwyl i chwi yn anhapus trwy gydol eich bywyd. Gali y weithred hono o anufudd-dod i'ch mam fod y cam cyntaf i'r carchar neu i warth. Yr ydych, heb un rhaid i chwi, yn ddiweddar i'r ysgol heddyw. Ni ymddengys yn awr o fawr bwys, ond yr ydych wedi dechreu ffurfio arferiad o ddiffyg prydlondeb yr hon a all fod yn achos o'ch dinystr Prydlondeb mewn pethau byehain yw un o gonglfeini pob gwir lwyddiant mewn bywyd. Gall ymddangos yn beth bach i gymmeryd y gwydraid hwnw o wio ; ond cofiwch fod miliynau o feddwon wedi dechreu gyda'r gwydraid cyntaf. Fell ymgadwch oddiwrth bobtuedd- fryd drwg. Gwneir y gadwyn o arferion drwg y mae dynion yn ffurfio er caeth- iwo eu hunain yn y gwaethaf o bob caethiwed, o ddoleni bychain ; ond ar ol ei dirwyn hi drachefn a thrachefn oddiamgylch iddynt, y maent fel Hercules yn mhlethiadau y sarff. Gall gwario ffyrling yn ffol fod yn ddechreuad colli ffortiwn, neu fe all ei defnyddio yn briodol fod yn ŵy y daw ystàd fawr allan o hono. Trwy gyflwyno ychydig funydau hamddenol sydd genych bob dydd i ddarlleD riiyw hanes gwerthlawr, fe all eich gwneyd chwi yn un o haneswyr mwyaf eich oes; nen fe all gwastraffu yr un amser mewn darllen ffugchwedlau diwerth ddinystrio eich deall am byth. Mae yr holl ysgolheigion mawrion yn dyfod yn enwog trwy ddysgu ond ychydig ar y tro ; ond maent o hyd yn ychwanegu, ychydig ar ychydig, at eu hystorfeydd o wybodaeth, hyd nes y maent o'r diwedd yn dyfod yn enwog mewn rhyw gangen o wybodaetb. Mae y cadben llwyddiannus yn dal ar bob awel ffafriol, nad rcor ysgafn, ac o'r diwedd, trwy 'storm a thawelwch, y mae yn dwyn ei long i borthladd yn ddyogel. A'r nn fath rhaid i chwithau, fy nghyfeillion ieuainc, wneyd defnydd iawn o betnau bychain bywyd, ac fe gewcli chwithau hefyd fordaith lwyddiannus dros fôr tymhestlog bywyd, ac yn y diwedd, trwy fendith Dnw, cewch fyned i mewn i nefoedd o orphwysfa dragwyddol. Nac annghofiwch y wers yr wyf wedi ceisio ei hargraffu ar eich meddyliau ieuainc. Byddwch ofalus o'r pethau bychain mewn bywyd. DEWI DAWEL. Bhagfyr 20, 1891, bu farw, yn sydyn ac annysgwyliadwy braidd, David Evans (Dewi Dawel), Cwmdu, Talyllychau, Swydd Gaerfyrddin, yn dri mis gyda 77 mlwydd oed. Yr oedd yr hen gyfaill anwyl a don- iol hwn yn herchen cyfansoddiad cryf, wedi cael iechyd gwell na'r cyffredin, fe allai, ac wedi bod yn ddyn heinyf, diwyd, a gweithgar dros yr " amser addawedig; " ond tua chwe' mlynedd yu ol aeth, gan " oedran teg " a'i gymdeithion, ac yn neillduol ei hen elyn y gewynwst,