Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

349 Y PÄRCH. JOHN JEREMY. í^T'AB ydoedd y Parch. John Jeremy i Mr. David Jeremy, IV i Cwmynys, sir Gaerfyrddin, ac ŵyr o du ei fam i Mr. J^ Daniel Davies, Blackbush, ger Abergwili. Yr oedd o ran taldra yn líai na'r cyffredin, ysgafn o gorff, ac eiddil o gyfansoddiad. Yr oedd mor eiddií pan yn blentyn, fel yr anobeithiai y meddygon am ei fy wyd -, ond er daroganau y medd- ygon, bu efe by w drwy dalu sylw manwl i ddeddfau iechyd a chymeryd ymborth syml, hyd oedran teg. Gall hyn fod yn galondid i bobl ieuainc na byddo eu hiechydyn ateb i'w huchel- gais. Gan ei fod yr unig fab, a'i rieni mewn amgylchiadau cysurus, bwriadwyd ef yn gynar i ryw alwedigaeth ddysgedig, ac ar gyfer hyny rhoddwyd iddo o'i febyd yr addysg oreu a ellid. Yr oedd ei dad yn Ymueillduwr, yn aelod o Eglwys Annibynol Galfinaidd Panteg, ac ymaelododd yntau yno pau yn lled ieuanc ; ond yr oedd amrj'w o'i berthynasau yn aelodau o'r Eglwys Sefydledig, yn mhlith y rhai yr oedd ei ddau ewythr, y Parch. John Jeremy, Moorlinch, a'r Parch. William Jeremy, Chard, yn Ngwlad yr Haf; a chymhellai y rhai hyny ef i uno â hwy, a chy- meryd urddau yn yr Églwys Sefydledig; ond ei weinidog, gan yr hwn yr oedd dylanwad mawr ar ei bobl, ar y llaw arall, a'i cy- mheliai yn daer i beidio cytneryd y cwrs hwnw. Gan nad oedd efe ond ieuanc, ac heb ífurfio barn drosto ei hun am deilyugdod gwahaniaethol Cydffurfiaeth ac Anghydffurfiaeth, yr oedd, fel y mae yn naturiol meddwl, niewn penbleth a dyryswch. Mae'n ymddangos nad oedd ond ychydig o offeiriaid Cymreig y cyfnod hwnw mor ymgyflwynedig i ddyledswyddau eu swydd gysegredig ag yw eu holynwyr yn yr oes hon, ac uid oes amheu- aeth nad oedd efe, er yn ieuanc, yn sylwi ar y gwahaniaeth oedd rhwng eu hymarweddiad hwy ag eiddo ei hybarch weinidog; a dyna, mae'n ymddangos, ddylanwadodd fwyaf arno pan bender- fynodd fwrw ei goelbren gyda'r Ymneillduwyr. Clywais fy uhad yn son lawer gwaith am yr ynigom a fu rhyngddo â'i weinidog yr amser yr oedd cwestiwn y Cydymffurfio neu'r Anghydffurfio o dan ystyriaeth—y dull manwl yr eglurai iddo Arfaeth, Étholedigaeth, a Gwrthodedigaeth, a'r desgrifiadau byw a dynai o boenau uffern, ac am y modd digalon y teimlai ar ol yr ymgom hono wrth feddwl, er yn fachgen ieuanc o feddwl difrifol ac ymarweddiad pur, nad oedd dan unrhyw amgylchiadau ond gobaith gwan iddo ef gael ei achub; ond nad oedd gobaith o gwbl, os byddai iddo Gydymffurfio. Yr oedd wedi bod am rai blynyddoedd yn Ysgol Ramadegol y Parch. David Peter, yn Nghaerfyrddin, ac felly yn hollol barod i fyned i unrhyw goleg, pryd y penderfynodd ymbarotoi ar gyfer