Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Yr * Y/AOFYNYDD. Misolyn y Gymdeithas Undodaidd Gymreig. " Profwch bob peth : deliwch yr hyn sydd dda."—Paul. Cyfrbs Nbwydd.] GOEPHENAF, 1901. [Ehif 7. GWEINIDOGION UNDODAIDD FEL ATHRAWON AC Y5G0LFEISTRI. I.—Y Paech. William Thomas, M.A., (Gwilym Marles). 1834—1879. GAN Y Pabch. T. Talwyn Phillips, B.D., Bala.* 'ID ar frys y bydd i mi anghofio y boreu dydd Llun y gadewais ___r fy nghartref am y tro cyntaf erioed. Y llecyn gwyn a'm denoddto'r nyth oedd Ysgol Gwilym Marles, yn Llandyssul. Mae Pencader a Llandyssul yn ymyl eu gilydd, ond yn feddyliol a chref- yddol yr oedd gagendor mawr rhwng y ddau le yr adeg hono. Tipyn yn geidwadol oedd Pencader gyda phobpeth, ond yr oedd gwýr Llandyssul yn credu fod rhagor o oleuni i dori o lyfrau Duw, ac eatynent eu dwylaw yn brysur at wirionedd newydd o ba le bynag y deuai. Yr oedd Pencader yn rhoddi pwyslais ar gredo iach, ond Llandyssul yn pwysleisio buchedd bur. Yno yr arferid gosod y tro- seddwyr mawrion o ddeddfau sylfaenol cymdeithas ar y " Ceffyl * Ganwyd Mr. Phillips yn Gellifelen, ffermdy ger Pencader, yn Sir Gaer- fyrddin, Mai iaf, 1856. Enwau ei rieni oedd Henry a Margaret Phillips. Yr oedd ei dad yn ddiaron yn hen Eglwys Anibynol Pencader, ac yr oedd ei ddau dadcu yn llanw yr un swydd. Yr oedd ei hen dadcu yn frawd i'r enwog Dr. Phillips, Neuaddlwyd. Aeth i ysgol Gwilym Marles yn 1872 ; Coleg y Bala, 1874 ; Prifysgol Yale, 1877, lle y graddiodd yn B.D., 1880. Dychwel- odd i Gymru, a chafodd ei ordeinio yn Llanrwst, 1882 ; symudodd i'r Bala yn 1884, i fod yn olynyddi'r Parch. R. Thomas (Ap Fychan). Hir oes iddo i wasanaethu ei genedl, fel mae wedi gwneud.—Gol.