Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cyfres III.—Rhip. .4—Ionawr, 1883. CYFATLL • YE • AELWYD: (&0MMM ^MM Ät Wmmtíh g Opffg. MICHAEL STROGOFF, NEGESYDD Y CZAR. Gan Jules-Vebne. (Cyfaddasiad arbenig i " Gyfaill yr Aelwyd" gan Alltud Gwent.) [Stlw.—Cymerwyd y cyfaddasiad hwn, yn nghyd a'r darluniau, o'r copyright edition, trwy ganiatad arbenig y cyhoeddwyr, Mri. Sampson Low & Co , 188, Fleet street.] Penod VI.—Teithio mewn Tarantass. tRANOETH, y 19eg o Orphenaf, cyrhaedd- odd y Gaucasus i Perm, y lle pellaf yr elai ar y Kama. Hon yw prif dref talaeth eang sydd yn ymestyn dros y Mynydd- oedd Ural i gyffiniau Siberia. Yma y mae lluaws yn gweithio yn y chwarelau mynor, ac yn y mwngloddiau aur, platina, glo, a halen, y rhai a weithir ar raddfa eang. Ér ei bod yn dref bwysig, nid yw yn ddeniadol, nac yn meddu ond ychydig o adnoddau cysur. Nid yw hyn o gymaint pwys i'r rhai sydd yn myned i Siberia, gan eu bod wedi eu cyflenwi â phob angenrheid- iau cyn cyrhaedd yma. Ond i'r rhai sydd wedi teithio dros y gwastadeddau o ganolbarth Asia, dymunol fyddai pe bae gwell cyflenwad o ym- borth, &c. yn y dref gyntaf y deuant iddi yn Ewrop. Yma gwertha y teithwyr o Asia eu cerbydau, ac yma hefyd y prynir cerbydau gan y rhai a deithiant i Asia. Yr oedd Strogoff eisoes wedi cynllunio pa fodd i wneyd, fel nad oedd rhaid iddo golli amser yma i gynllunio. # Penderfynodd deithio y modd cyf- lymaf a allai ; felly penderfynodd brynu cerbyd iddo ei hun, a líogi ceffyíau, a'u newid mor fynych ag y byddai yn angenrheidiol, ac enyn sel y gyriedyddion i deithio yn gyflym, trwy yr hyn a alwent yn "na vodkou," hyny yw tips, neu roddion arianol. Yn anôbdus, mewn canlyniad i'r gorchymyn oedd yn anfon yr Asiaid allan o'r wlad, yr oedd nifer luosog o deithwyr eisoes wedi myned o Perm, ac yr oedd y cerbydau yn brin. Ýr oedd yn rhaid iddo ymfoddloni ar yr hyn a wrthod- wyd gan erejil; am geffylau, gallai yn rhinwedd y podorojna hawlio y rhai goreu ellid gael, nes cyrhaeddai Siberia. Yno byddai rhaid iddo ymddibynu yn hollol ar ei arian. Ond pa fath gerbyd a gymerai î Ai yr un a elwid telga neu y tarantass ? Nid yw y telga yn ddim ond math o gert agored, pedair olwyn, a'i wahanol ranau wedi eu sicrhau wrth eu gilydd â rhaflau. Nis gallai dim iod yn fwy cyntefig, na llai cysurus; ond os dygwyddai damwain ar y ffordd, hawdd iawn oedd adgyweirio y cerbyd. Cludir negeswr- iaethau pwysig gyda'r telga, gan fod unrhyw ffordd yn ddigon da iddo deithio ar hyd-ddi. Y mae yn wir fod y rhaffau cysylltiol weithiau yn tori, a thra y glyna y rhan ol yn ddiysgog mewn cors, â y rhan arall yn mlaen ar ddwy olwyn i ben y daith. Ond ystyrir fod cyrhaedd pen y daith hyd yn nod fel hyn yn foddhaol. Y mae y tarantass hefyd yn gerbyd pedair olwyn, ond nid yw yn meddu springs ; ond gan fod pellder o tua wyth neu naw troedfedd rhwng yr olwynion blaen a'r ol, nid yw yn ysgwyd cymaint ar hyd y ffyrdd geirwon. Cedwir y teithwyr rhag ftaeì eu lluchio â llaid oddiar yr olwynion, gan estyll ar hyd yr ochrau ; a gellir ei wneyd yn gerbyd cauedig, gan fod llen o ledr cryf yn perthyn iddo, yr hwn, os dewisir, a ellir ei gau, fel ag i orchuddio y teithwyr, a'u ham- ddiffyn rhag gwres neu ystormydd yr haf. Gellir adgyweirio hwn hefyd yn rhwydd, ond nid yw mor dueddol i adael ei ran ol ar y ffordd ag yw y telga. Buasai yn rhaid i Strogoff ymfoddloni ar telga, oni bae iddo, ar ol chwilio yn ddyfal, ddyfod o hyd i tarantass, yr hwn mae yn debyg oedd yr unig un i'w gael yn y dref ar y pryd. Er hyny, dadleuodd Michael gryn laweryn nghylch y pris, er cadw i fyny ei gymeriad fel Nicholas Kor- panoff, y masnachydd o Irkutsk. " Fy chwaer," ebe Michael, " byddai yn dda genyf pe gallwn gael cerbyd mwy cysurus i chwi." " Ni raid i chwi ddweyd hyny, fy mrawd, gan y buaswn yn teithio yr holl ffordd ar fy nhraed, os byddai rhaid." "Nid amheu eich gwroldeb ydwyf, Nadia, ond y mae blinderau nas gall dynes ymgynal danynt." " Af trwyddynt yn wrol," ebe hithau ; " ac os clyw(;h fi yn cwyno o gwbl. gadewch fi ar y ffordd, ac ewch yn mlaen nebof." Yn mhen-han«r awr wedi hyn, trwy ddangos ei drwydded, cafodd Michael dri o geÖylau wedi eu harnaiaiö wrth y tarantass. Aniíeiliaid