Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

*3 TAYODIAIfH Y SIROEDD. EHIV. I,—TAVODIAITH SIR VON.-DIWRNOD YN FAIR LLACHMEDD. ISTAR GOL.-Miydw i wedi meddwl cryn dipin am ysgwenu atoch chi am rwbath ne gilydd, ond vod rhwbath arall o hyd yn dwad ar vy nhrawst i. Ac miawn divri a gwirionedd, vuaswn i yn vy myw ulw yn gwbod am beth i ysgwenu at wr boneddig vel chi, nes y soniodd y wraig yma wrthai am yru pwt i chi o hanes y fair hono yn Llachmedd, er's talwm. Ond mi ddylaswn sponio i chi mai dwy fair vwyav Sir Fon ydi Fair Llangevni, ar Ddivia Dyrchaval, a Fair Llachmedd, ar Ddydd Oalan. Wel, mi eis ina i hono y tro diwetha, a vuo rotsiwn beth erioed a fobol oedd yno. Beth bynag i chi, Syr, mi gychwnis yno tua saith o'r gloch y bora, a mi roddwn i yno am naw o'r gloch vel y cloc. A chyda mod i wedi stopio ar dop y Llan> pwy ddoth atai ond yr hen John Jones, Tanyrallt, yn gweiddi nerth ei geg, " Helo, yr hen Dwm o'r Naot, sut y mae hi er's cantodd, dwad V " Short ora," medda vina, "ac yn eno yr anwyl mân, sut wyt tithau, a sut ma yr hogia acw i gid V* " 0, y mae nhw yn go lew, wir," medda John, " ond vod dipin o ddanodd, wyddost ti, ar yr hen hogyn bach acw, ne y mae'r hogia merched acw vel bolion ynte, a'r hen wraigmor smartiat a folas vachan." " Wel, y mae hyny yn lwc ovnadwy ynte," meddwn ina. Wedi dechra cael sgwrs vel yna, mi ovnodd yr hen lanc i mi vyn'd hevo vo i lawr i Eing's Head i gael glasiad bob un ; a dasech chi yn y van yna, mi eis, heb veddwl dim yn te be vasa y clyniad. Tyna lle y buon ni am gwmpas tair awr, yn yved vel lloia, a just rwan mi glywn y mhen i yn dechra troi, a phob peth odd yn y ty yn troi hevo vo, a mi veddylis mai safach vasai ei chetio hi o'r van hono ; ond erbyn i mi vyn'd i'r drws, mi welwn i bod hi yn smwglian bwrw yn o sownd, a dyma yr hen John yn gweiddi arnai o'r bar,—" Well i ti beidio myn'd allan rwan, ne mi lychi tat y croen." '* Ydi, yn diar anwyl," medda gwr y ty y tu ol iddo vo. Ond trw' mod i yn dechra teimlo yn go 'smala, mi ben- dervynis vyn'd allan, er bod nhw i gyd yn deud y mod i yn fwl gwirion, ac y baswn i yn 'lyb dyveru cyn pen yr awr. Ond dasa nhw ddim ond gwbod, yr own i yn reit 'lyb oddiviawn yn barod, vel yr odd mwya' gresyn ; ac yr oeddan nhwtha hevyd yn dechra i dal hi yn reit ddel ynte. Ond beth bynag am hyny, S|r, allan yn syth yr eis i, a fwy odd yn dwad i tígwarvod i ^ ond Mistar Hughes, y bygethwr, a mi chrynais i dipin yn te i wel'd o, a vina vel yr own i. " Wel, Mistar Tomos Hughes," meddai, " Sut yr ydach chi heddyw?" "Cystal a govol y sawl sy'n govyn," meddwn ina yn reit lartsh, rhag iddo vo veddwl vod dim byd yn matar arnai, ydach chi yn gwel'd; ond 'dodd yr hen bygethwr ddim mor wirion yn te. Mi nabodd i miawn winciad, amiddeudodd "P'nawn da i chi. Tomos," yn reit suvul, chwara teg iddo vo. Ac ar y ngaddai, yr oedd yn dda ddychrynllyd gin i wel'd o yn myn'd, o achos lol botas vasa iddo vo wbod y cwbl. Wel, Syr, mi ellwch veddwl, wrth y 'stad sobor yr oidwn i yni hi, na neis i ddim rhyw lawer o vusnes yn y i air plaw y vad yn gynddeiriog. Erbyn hyn, yr odd hi yn dechra nosi, a gin ina saith milldir o fordd i gerddad adra hyd hen lôn- ydd culion a budar ovnadwy ; a chyn i mi 'goryd vy llygada yn te, yr odd pob trol, a char, a lyri, wedi i chychwyn hi er's meityn, a 'dodd gan ina ddim i neud ond i mentro hi ar y nhraed. Ond diar anwyl, cyn mod i wedi myn'd gyntai dair milldir, yr own i ar vy hyd yn fos rhyw hen glawdd, yn gorvadd ar wasdad vy nghevn vel llo g'lyb ; a van yno y buom i tan odd hi yn vora glas, yn troi ac yn trosi ac yn bysdachu vel cefyl. Ond beth bynag i chi, Syr, erbyn iddi hi 'luo rhyw dipin, mi oddwn ina yn dechra sobri vel tasa, a mi dris gerddad adra. Ond yr odd arna g'wilydd ovnatsan i neb y ngwel'd i, o achos yr odd y nillad i wedi tori yn dipia mân ; a gwath na'r cwbl, Syr, yr odd y nghymeriad i yn vwy carpiog a thyllog byth, vel, trw' y cwbl yn te, yr own i yn un sitrws gwyllt. Erbyn i mi vyn'd at y drws, yr odd yr hen wraig acw yn crio i hochor hi, a'r hogia bach yn byta eirin bwleni gymint a vedra nhw, a chyda iddi nhw ngwel'd i, dyma nhw yn dechra edrach arnai vel dasa nhw heb y ngwel'd i 'rioid. " ¥ n eno yr anwyl, hogia, be' ydach ch'n 'spio V meddwn ina. Ond wrth i gwel'd nhw'n timlo velly, mi eis ina ar vy llw (mi ellwch chi chwerthin, Syr, ond mi gneis o, down i byth o'r van yma rwan), os awn i byth i Fair Llachmedd wedyn, yr awn i rwla plaw King's Head i dreilio y diwrnod ; a byth wedyn, yr yden ni i gyd yn ddirwestwrs ; gobeithio eich bod chitha hevyd. Covion garw iawn atoch.— Ydwyv, Tomos Huws. MANION TEULUAIDD. Mae ŷchydig soda water yn aml yn gwella cur yn y pen, pan gyvyd hwhw o ddifyg treuliad. Dylid awyro ystavelioedd gwelyau yn dda ; bydd hyn yn atal y cur pen a'r teimlad o vlinder deimlir yn aml pan yn codi yn y boreu. Y peth goreu i wneud â pherson mewn llewyg yw ei osod i orwedd ar ei gevn, rbyddhau ei ddillad, rhoddi digon o awyr iddo,—a'i adael yn llonydd. Gellir atal y chwys nosawl sydd yn nglyn a'r, darvodedigaeth drwy sponyio y corf bob nos â dwvr hallt. Gellir lleihau y gwrês yn nghorf un >n dy- oddev oddiwrth dwymyu, drwy ei spongio yn aml â soda water. Atelir y gwal'.t rhag syrthio ar ol hir selni, drwy olchi y pen yn vynych á thê sage.