Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cyv. IX.—Bhif. 7—Gorph., 1889. CYVAILL-YR-AELWYD': O DAN GYSGOD Y LLAWRYF. Gan y Parch. H. Elfed Lewis. ATHRYLITH YN BLAENDARDDU. MAE yn anhawdd i ni gofio fod Shak- spere wedi gorfod dysgu cerdded, fel pob - -?^- plentyn arall, ar lanau'r Aron. Bu Homer yn bwhwman, mae yn lled debyg, pan yn tori ei ddant cyntaf. Ac oni fu Milton yn crafferthu dysgu'r A, B,—AB, fel pob pechadur bach arall ? Dynol yw pob dyn, o'r lleiaf hyd y mwyaf; a rhaid i bawb ddechreu ar waith bywyd tua'r un man. " Ni wneir yn fardd ond a enir yn fardd," sydd damaid o'r gwirionedd. Rhaid i'r bardd, wedi ei eni, weithio a dysgu ; neu bydd farw heb y llawryf. Nid o'r lleuad y disgynodd chwareu- gerdd Éamlet; ni chafodd Dafydd ab Gwilym gywyddau Morfydd fel blodau ar lwyn. Pa gadeir fardd yn Nghymru wnaeth englyn yn ol y ddeddf, heb ddysgu rheolau cynghanedd? Rhaid i'r athrylitb uwchaf ddechreu yn y dech- reu, a symud o gam i gam, nes tyfu yn ddigon cryf i eefyll ar ochrau'r annherfynol. Un o'r pethau mwyaf dyddorol yn nghofiant Henry Ward Beecher yw haDes ei blentyndod. Yr oedd, yn y tymor hwnw, yn siaradwr trwstan dros ben. Arferai modryb iddo ddweyd mai dychryn iddi hi oedd ei weled yn dyfod ar neges. Y tro cyntaf yr elai dros ei 'stori, ni wyddai hi beth oedd ganddo mewu llaw, fwy na phe byddai yn siarad Choctaw ! Yr ail dro, yr oedd ganddi ryw syniad am air yma a thraw. Ac erbyn iddo adrodd ei 'stori deirgwaith, yr oedd wedi goleuo arni. Pwy allasai ragweled yn y siaradwr bychau, diafael hwnw, un o areithwyr mwyaf hyawdl ein canrif—y gwr a orfododd Brydain Fawr, trwy rym ei hyawdledd, i wrando ar ei ymbil fawreddog o blaid y caethwas % Yr oedd blynyddau hirion o lafur caled rhwng y benod gyntaf a'r ail. Dywed, yn un o'i lythyron, y byddai weithiau, am awr gyfan, yn arfer parablu yr un gair drosodd a throsodd er mwyn ei siarad yn groyw. Pwy, wrth ei glywed yn traddodi gyda hwyl, feddyliai fod y fath anhawsderau ar ffordd ei hyawdledd î Fel Luther, fel John Knox, fel Demosthenes, nid mewn diwrnod yr eoillir y tafod arian. I ddyfod yn nes adref, adroddir chwedl am y diweddar hybarch Ddr. Rees, Abertawe, mai lled ddilewyrch ydoedd* fel gweithiwr ar hyd blynyddau ei fachgendod. Pan aeth at weinidog Capel Isaac un diwrnod—Mr. Jones, Pantarfon —i ddweyd fod arno chwant pregethu, ni chafodd well atebiad na hyn : " Wel, gweyd y mae nhwy dy fod di yn ddiog, na weithi di ddim." " Gwnawn, Syr, mi weithiwn i ond i mi gael gwaith sy'n 'y nharo i," ebe yntau yn galonog. A'r gwir a ddywedodd. 0 ganol anfanteision mebyd, trwy rwystrau beunyddiol, gweithioddy bachgen tlawd o fwthyn llwyd Penpontbren ei ffordd i'r lan i gadair Undeb Cynulleidfaol Lloegr a Chymru. Gadawodd ar ei ol lyfrau ag ôl llafur hir arnynt, i ddangos fel y medrai weithio ond iddo gael gwaith i'w daro. Onid yw yn syn gymaint o fechgyn gobeithiol sydd yn mhell ar ol cyn canol oedran î Yn yr ysgol, yr oeddent yn hawdd ar y blaen. Ond, rywfodd, dechreuasant fiino ar waith, gan bwyso ar falchder talent; heb gofio nad yw'r dalent oreu werth dim heb lafur. Nid yw yn ddigon i'r pladurwr fod wedi llifanu ei bladur llynedd i dori'r cynhauaf eleni. Nid yw gwaith boreu oes yn ddigon dros fywyd. " Amser dyn yw ei gynysgaeth," meddai Morgan Llwyd o Wynedd ; a dyna gynysgaeth o'r un fesur i bawb. Yr un yw hyd y dydd a goleu haul i werinos a brenin. Dyna'r wers—peidio eistedd ar y gamfa gyntaf. Y mae y daith yn hir, ond yn werth bywyd i'w cherdded. Y mae athrylith mebyd yn hawlio diwydrwydd a ffyddlondeb oes : nid yw'r anfanteision ond defnydd llwyddiant i'r gweithgar a'r medrus. Na feddylied neb mai rhagorf'raint y talentog yw bod yn ddiog. Rhagor- fraint talent yw Uafur, a dim arall. Y mae Ue tawel i orphwys a bod yn segur—o dan helyg y Rhaid i ni beidio cymeryd arnom weled yr oll a welwn os am fod yn esmwyth. Y mae ymholiad yn ddynol, ond ufudd-dod dall sydd fwystfilaidd. Ni chyll gwirionedd byth trwy y naill, ond yn fynych dyoddefa drwy y llall. Gwneud Dewisiad.—Pan oedd y diweddar Arglwydd Clive yn fachgenyn, ac yn cerdded gydag un o'i gyd-ysgolheigion drwy farchnad Drayton, safasant i edrych ar gigydd yn lladd llo. " Dear me, Bobby," meddai y crotyn, " fyddwn i ddim yn gigydd am y byd yn grwn." " Wel, fuaswn inau ddim yn ei leicio yn dda yn y byd," meddai Clive, " ond byddai yn well genyf fod yn gigydd nag yn llo."