Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cyfres II—Rhif. 3.—Rhagfyr, 1881. CYFAILL-YR-AELWYD: OWEN HUGHES: neu, O FAINC Y CRYDD FR BENDEFIGAETH. DRAMA BYWYD MEWN TÀIR ACT. Gan y Golygydd. ACT YR AIL. — (Parhad). GOLYGFA V.—TRANOETH. [S)OREU tranoeth cychwynodd Owen tua'r ysgol mor ysgafn-galon ag erioed. Pan agoshaodd ei Iwybr at y fan lle cymerodd yr ymrafael y nos o'r blaen le, nis gallai lai na theimlo hiraeth ar ol ei lyfr. Poor fellow ! Yr oedd ei lyfrfa fechan wedi ei dodrefnu mor brin, fel yr oedd colli un llyfr yn golled fawr, colled anadferadwy iddo tan yr amgylchiadau. Edrych- odd yn fanol ar hyd lan yr afon am beth amser, gan goleddu gobaith gwan y gallai eto achub o leiaf ran o'r llyfr. Ond yr oedd ei ymchwil yn ofer, a throdd o'r diwedd tua'r ysgol. Erbyn cyrhaedd yno yr oedd y plant eto allan yn chwareu, ac nid oedd son am ysgolfeistr. Nid oedd hyn yn achosi fawr syndod; gellid tybied wrth ddull y plant eu bod yn gyfarwydd a'r fath ddygwyddiad ; ymgynghorodd dau neu dri o'r bechgyn mwyaf, ac yna gyrwyd y plant i'r ysgoldy, ac awd yn mlaen a gwaith y dydd. Buwyd felly am yn agos i awr o amser cyn i'r meistr wneyd ei ymddangosiad. Pan ddaeth Morris Roberts fewn, casglodd y plant wrth ei wyneb gwridgoch, ei lygaid fflach- iol, a'i gerddediad troellog, ei fod wedi treulio ei foreu-ddydi yn y General Picton. Gydag ef yn awr yr oedd person arall; adwaenai y plant eí oll,—John, gwas y Plas. Dygwyddai fod Owen ar y pryd yn eistedd ar un o'r meinciau agosaf i'r drws, yn dadguddio dirgelion yr hyn elwid y pryd hwnw, " Éule oý Double Position," i hwlcyn mawr o fachgen deunaw oed o gymaint arall o gorph ag ef. Edrychodd Morris Roberts yn ymchwilgar oddeutu; o'r diwedd syrthiodd ei lygaid ar Owen, a dyfnhaodd y wrid ar ei wyneb. Cy- merodd un cam tuag ato a gafaelodd yn arw yn ei ysçwydd a'r naill law, tra y ìhoddoad fonclust gas iddo a'r llall, gan ddweyd :—" Y lercyn bach! beth yw dy fusnes fan hyn ì Dos i th le !" a gwthiodd y llanc yn ffyrnig oddiwrtho. Edrychai y plant mewn syndod ar yr ym- ddygiad yma, canys nid yn unig yr oedd Owen yn arfer bod yn ffafrddyn gan ei feistr, ond gosodai ef yn aml, a dysgwyliai iddo fod bob amser, pan fyddai ei eisieu, yn y fan yr oedd pan ddaeth fewn. Cododd y dagrau i lygaid y bachgen, ond meddai ar ormod o ysbryd i ganiatau i'w gyd- ysgolheigion weled ei fod yn teimlo, ac heb ddweyd gair aeth i'w le. Ymddangosai hyn fel pe yn cynddeiriogi y dyn haner meddw yn fwy. Cloffodd at ei ddesc, a churodd hi yn üyrnig ag un o'r gwialenod, gan waeddi, " Dystawrwydd!" Nid oedd eisieu y curiad na'r waedd, canys yr oedd y plant, gan ddysgwyl rhywbeth allan o'r cyffredin, oll yn ddystaw. " Blant! gwyddoch fy mod bob amser yn eich dysgu trwy hyfforddiant ac esiampl i barchu y rhai y mae Duw wedi eu gosod yn uwchafiaid i ni. Yn y fyddin, rhaid i bob milwr ddangos parch i'w swyddog, a bydd pwy bynag gyfodo ei law yn erbyn ei uwch- swyddog, yn euog o farwolaeth. Yr wyf fi yn fwy tyner na hyny. Nid wyf yn gweinyddu cosb marwolaeth ar y rhai yn eich plith a geir yn euog o'r trosedd hwn, ond nid wyf ychwaith yn eu gollwng yn rhydd. Mae un yma heddyw wedi beiddio codi ei law yn erbyn ei uwchradd, yn erbyn un yr ydym un ac oll yn ei barchu, yn erbyn Scweier ieuanc y Plas. Owen Hughesr tyred yma." Agoshaodd Owen at orseddfainc barn, yn ym- wybodol mae'n wir o'i ddieuogrwydd, ond nid heb grynu peth. " Ymosodaist ar Meistr Harri ddoe; teflaist ef i'r dwfr ger y felin, ac oni bae trugaredd y nef buasai wedi boddi; nid yw eto allan o berygl; mae Dr. Howel gydag ef drwy'r boreu, ac ofnir am ei fywyd. Os bydd farw, cei dy grogi; ond gan nad beth am hyny, chei di ddim dianc yn ddigosb genyf." "Os gwelwch yn dda, syr, nid felly y bu. Efe------." " Aros, aros. Dyma Mr. John wedi dyfod yn unig swydd o'r Plas heddyw, a nodyn oddiwrth