Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cyfres II.—Rhip. 8—Mai, 1882. CYFAILL • YR • AELWYD: SILYANO, Neu DDIALEDD YR ICENIAID. DALEN 0 HANES YR HEN GYMRY. (Y Novel aìl oreu yn Eisteddfod Genedlaeihol 1881.) Gan W. G. Williams (Glynfab), Clydach Vale. Penod XII.—Y Rhyddhad. *EDI dychwelyd o'i hynt garwriaethol hwyr yr un dydd, cyfeiriodd Comius ei gamrau tua chyferiad y carchardy, yn cludo balm i feddwl clwyfedig ei gyfaill. Tranoeth aeth ar neges swyddogol i dy Decianus, a phan yn dychwelyd er talu ymweliad a Silvano daeth Iceniad ato, yr hwn fel y gwelir ydoedd y negesydd a ddanfonwyd gan Eurfron a Rhianon, a chan foesgrymu dywedodd, "Ai chwy- chwi ydoedd yr ymwelydd yn nhŷ Buddug ein brenines ddoe 1" " Ie," ebe Comius, " beth sydd genych i mi, gobeithio fod pobpeth yn dda wedi fy ymadaw- iad." " Pobpeth yn dda, ond cenad ydwyf oddiwrth y ddwy dywysoges, yn gofyn i chwi hyrwyddo fy mynediad i gêll Silvano." " Canlynwch, nid oes dim yn ormod genyf i'w wneyd er mwyn y tywysogesau; yr wyf yn myned yno fy hunan yn awr." Curodd Comius wrth ddor allanol y carchardy. " Pwy sydd yna," ebe y gwyliwr. " Comius a chyfaill," ydoedd yr ateb byr. " Silvano anwylaf, wele fi yn unol â fy addewid yn talu ymweliad, ac yn dwyn i'th bresenoldeb genad Icenaidd, yr hwn sydd gludydd neges o gryn bwys gallaf feddwl. Tybiaf mai gwell fydd iddo draethu ei neges, ac yna gallwn gael mwyn- hau ymgom mewn unigrwydd." " Beth sydd genych i'w fynegu wrthyf," ebe Silvano. " Mae yr hyn a roddwyd i mi i'w hysbysu mor bwysig, fel y gofyna berffaith unigrwydd, ac na fo ond chwychwi a minau yn bresenol." " Yr ydych wrth hyny yn teimlo angenrheid- rwydd fy ymneillduad i V " Gorchymynwyd i mi na fyddai i arall ond Silvano glywed fy ngeiriau." " Ond,' ebe Silvano, " hysbysaf fy holl gyfrin- ion i Comius, ac felly ewch yn mlaen." "Os na fydd gwrthwynebiad, gwell genyf weled eich cyfaill yn ymadael am enyd, ac yna gallaf finau ddychwelyd a'm meddwl 'yn dawel." " Dyma fi yn myned," ebe Comius, " gobeithio na fydd i feithder eich ymddyddan fy ngorfodi i dori eto ar eich siarad," ac yna aeth allan, ac er mwyn dyogelwch cymerodd y gwyliwr o'r neilldu i ymgomio. "Bellach," ebe Silvano, "beth sydd genych i'w hysbysu sydd yn gofyn cymaint o rag- ocheliad V " Wedi ÿmadawiad eich cyfaill bu cryn siarad rhwng Eurfon a Rhianon am danoch. Gofidus ydoedd y meddwl am eich caethiwed. Gorchy- mynwyd i mi ac ereill o'm cyd-swyddogion gyf- arfod a hwy. a daethpwyd i'r penderfyniad o wneyd cais i'ch rhyddhau ; hyny yw, gyda'ch caniatad chwi." " 0, niellir hyny, maearnafofn," ebe Silvano, "mae çwyliadwriaeth feunyddiol o amgylch y carchar." " Nid wyf fi o'r un farn, bu'm yn taflu golwg ar y tu allanol, a chyda gofal gellir eich cael allan." "Pa fodd?" gofynai Silvano, "ni fydd yn bosibli chwi ddianc sylw y Rhufeinwyr gwyl- iadwrus. Y mae dial Decianus wedi dirwyn rhagocheliadau, a nifer y gwylwyr wedi chwyddo." " Cymerwch hwn," ebe efe, ar yr un pryd yn syllu oddiamgylch fel pe yn ofni llygad-dyst, " bydded i chwi rwymo un pen iddo o amgylch barau y ffeDestr acw, ac yna deuwch allan." " Ac os gwnaf hyuy, ni byddaf ond yn llamu i freichiau y gwylwyr i'm dwyn yn ol eto i'r gell ddigysur." " Tua'r amser hwn, neu fe allai yn hwyrach, o dan leni y nos rhoddir dau arwydd, megys aderyn. Ar ol clywed yr arwydd cyntaf sicr- hewch y croen-linyn. a phan glywoch yr ail arwydd, gellwch ollwng eich hun i lawr, bydd breichiau cyfeillgar yn eich derbyn, a meirch buan-droed yn barcd i'ch cludo i ganol cysur,