Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TRYSORFA Y PLANT. 169 Y PARCH. W. MORRIS LEWIS, TYLLWYD. IWI AE y Parch. William Morris Lewis, Tyllwyd, sir Benfro, /A\ vn fab hynaf o bump o feibion i'r diweddar Barch. Enoch Lewis o Abergwaun, yr hwn oedd weinidog poblogaidd gyda'r Methodistiaid. Ganwyd ef Mai 9fed, 1839. Bu am chwe' blynedd yn ysgol Dr. George Rees, Abergwaun, ac yn gydysgolor yn y dosbarth blaenaf a'rParch. James Owen, Abertawy, yr hwn syád yn awr yn Llywydd Undeb y Bedydd- wyr. Aeth o'r ysgol hou i'r Bala, a bu yn aros blwyddyn dan gronglwyd Dr. Ecîwards. Ei gydysgoleigion yno oedd J. Ogweu Jones, Josiah Thomas, D. C. Eiwards, &c. Pan wedi dechreu ei ail flwyddyn yno, cymerwyd ef yn wael iawn, a daeth ei dad i'w gyrchu adref. Parhaodd ei gystudd am ddwy flynedd. GORFFENAF, 1900.