Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

170 TRYSORFA Y PLANT. Yn y flwyddyn 1856, pan yn 17eg oed, amlygodd ei awydd am fyned i'r weinidogaeth, ac aeth i'r Normal Coììege, i Abertawy, ac yno yr oedd pan y dechreuodd bregethu. Mynai ef fyned i Glasgow, ond perswadiodd ei dad ef i fyned yn gyntaf i Goleg Trefecca. Aeth yno yn 18ó7. Ar ddiwedd ei flwyddyn gyntaf yno, bu ei dad farw, a gorfodwyd ef gan amgylchiadau teuluaidd i adael y Coleg. Yn niwedd 18ö9 ymbriododd a merch hynaf W. S. Lloyd, Ysw., Long House, ac aethant i fyw i Tyllwyd, ]le ei breswylfod o hyny hyd yn awr. Nid oedd Methodistiaid yn yr ardal hono ; ond trwy ymdrech- ion dyfal Mrs. Lewis yn benaf, cychwynwyd achcs yno, a chodwyd Capel Treffynon yn 1867. Mae Mr. Lewis yn bregethwr da, ac yn meddu ar ddawn ymadroddus. Mae o duedd meddwl ymchwilgar a beirniadol. Y mae wedi ysgrifenu llawer, gan mwyaf yn yr iaith Saesneg, i'r a E^positor," ac i'r " Thinher^ a'r " Biblical World." Ysgrifenodd lawer o erthyglau ar yr Epistol at yr Hebreaid, yn beuaf ar awduriaeth yr Epistol, ac ar amryw adnodau o'r llyfr. Bu yn Llywydd Cymdeithasfa y De yn 1893-4, a choflr ei araeth feirniadol ar " Yr Ordeiniad i gyflawn waith y Weini- dogaeth." Y mae wedi dyfod i lanw lle pwysig yn nghylch ei Gyfarfod Misol, ac yn y Gymdeithasfa. Efe sydd wedi ei ddewis i draddodi " DarHth Davies" eleni yn y Gymanfa Gyffredinol yn Llanberis. Pan yn traddodi anerchiad i efrydwyr y Bala ryw chwe' blynedd yn ol, gwnaeth gyfeiriad chwareus at arholiad yr oedd ef a'r Prifathraw yn cystadlu ynddo flynyddoedd yn ol, a dywedodd mai ei enw ef yn unig a gadwodd enw y Prifathraw rhag bod yn olaf. Wedi myned i'r ty, aeth Mr. Edwards i'w lyfrgell, daeth a'r Dnjsorfa allan yn ei law, a than chwerthin ei chalon hi, dywedodd, " Ha ! Yr ydych wedi cam- synied ! Yr oedd un enw arall rhyngom." Felly, yr oedd dau enw rhwng y Prifathraw a'r gwaelod. Mae gan Mr. Lewis deulu mawr, ac amryw o honynt eisoes yn llenwi Ueoedd pwysig. Boed llwyddiant iddo ef a'i deulu oll, a bendith arosol yn gorphwys arnynt. LLYFRAU NEWYDDION. Holwyddoreg YN Hanes Tesu Grist. Rhanau 2il a'r 3ydd, gan y Parch D. Cunllo Davies, Dowlais. Llyfrau bychain, ceiniog yr un ydyw y rhai hyn, yn cynwys holiadau ac atebion cymhwys i blant ar hanes Tesu Grist. Mae yr holiadau a'r atebion yn chwaethus, ac yn gyfaddas iawn i blant yn dechreu dysgu hanes yr Arglwydd Iesu.