Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TRYSORFA Y PLANT. 141 Y PARCH. J. CYNDDYLAN JONES, D.D. AE y Parch. John Cynddylan Jones, D.D., Llywydd Cymanfa Gyft'redinol y Methodistiaid am y flwy- , ddyn hon, yn un o'r dynion mwyaf adnabyddus trwy Gymru benbaladr ; ac yn sicr yu un o'r Cymry mwyaf ei allu a'i dalent, a'i gymeryd yn ei holl gwmpas, a fedd y genedl heddyw. Mae ei fywyd yn arddangos ymroddiad, dyfalbarhad, a llwyddiant trwy lu o anhawsderau, sydd yn wers ragorol i'n holl ddarllenwyr ieu- ainc. Ganed ef o fewn dwy filldir i Aberystwyth yn y flwyddyn 1841. Plentyn gwanaidd ei iechyd ydoedd. Ond oddiar yn blentyn, hynodai ei hun yn ei awydd am lyfr, a'i fedr i ddar- Hen. Yr oedd yn well ganddo lyfrau na chwareu pan yn nn bach ; ac felly y mae wedi parhau ar ol dod yn fawr.