Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TRYSORFA Y PLANT. Ehif. IX.] MEDI, 1862. [Ctf. I. SAMUEL BUDGETT, Y MASNACHYDD LLWYDDIANNUS. PENNOD I. mAE enw Samuel Budgett yn dra adnabyddus fel nn o brif fasnachwyr Bristol am yr hanner canrif diweddaf. Mae "^ wedi marw bellach er ys rhai blynyddau, a'i fasnach yn nwylaw ei berthynasau. Ysgrifenwyd hanes ei fywyd yn fuan wedi ei gladdu; ond gan fod pris y llyfr dipyn yn uchel, cadwyd ef o ddwylaw ílawer a garasai ei gael. Ond yn awr mae argraff- iad rhad o hono wedi ei gyhoeddi gan Hamilton, Adams, & Co., Llundain, am ddeunaw ceiniog; a chynghorem bob dyn ieuanc sydd yn abl i ddeall Saesoneg i'w ddarlìen yn ddioed. Er nrwyn y rhai nad allant ei gael na'i ddarllen, rhoddwn yma ychydig ddarnau o'r pethau mwyaf tarawiadol a buddiol i'r plant. SAMUEL A'R BEDOL. _ Yr oedd Samuel wedi ei eni yn fasnachydd, a dechreuai ei athry- lith masnachol ddangos ei hun pan yn ieuanc iawn. Yr oedd ei ri- eni yn isel a thlawd, ac yn byw yn Coleford. Mae Budgett yn ad- rodd ei hun y fargen gyntaf a wnaeth, a'r geiniog gyntaf ddaeth i'w feddiant. "Ennillais yr arian cyntaf fu genyf erioed, ar wyf