Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TRYSORFA Y PLANT. Ehif. X.] HYDREF, 1862. [Ctf. I. "CURWCH FI, A CHEDWCH EICH EHEOL." fR brydnawn hyfryd yn ddiweddar aethom i ymweled â'r ysgol ddyddiol. Yr oedd yno ugeiniau o blant yn astud a dystaw uwch ben eu gwersi. Yn y pen uchaf, yn agos i ddesc yr ysgolfeistr, safai Uanc â golwg prudd arno; troseddwr ydoedd, wedi pechu yn erbyn un o reolau yr ysgol. Y llwybr oedd gan y meistr i gadw dystawrwydd a threfh ydoedd hwn;— Mor gynted ag y gwelai un o'r plant yn esgeuluso ei lyfr, neu yn siarad, galwai ef i sefyll gerllaw y ddesc. Yr oedd i arps yno hyd nes y gwelai yntau rywun yn siarad neu yn sibrwd (whisper), ac yna yr oedd i enwi hwnw wrth ei feistr, ac i ddychwelyd i'w. fainc at ei lyfr, a'r troseddwr diweddaf i gymeryd ei le wrth y ddesc. Yr oedd yr hwn fyddai yn sefyll wrth y ddesc pan der- fynai yr ysgol i gael ei gosbi yn drwm, felly yr oedd pob un yn awyddus iawn am adael y fan cyn diwedd yr ysgol. Yn fuan wele y meistr yn galw y rhan fwyaf o'r ysgol ynghyd i gael y wers olaf, sef sillebu, neu fel y gelwir ef yn gynredm, spelian. Ar ben y rhês yr oedd merch fechan daclus o'r enw Emily, un o'r ysgoleigion goreu, a geneth o dymher ragoroL Yr oedd amryw yn mhen isaf y dosbarth wedi methu sillebu y gair ieautiful, yr hyn oedd wedi cyffiroi ychydig ar y meistr, a daeth i ran Emily. "J5 e a u, beau—t i, tv—f ú l, ful—beautiful," ebai