Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TRYSORFA Y PLANT. Ehif. XI.] TACHWEDD, 1882. [Cyt. I. BRASLÜNIAU. §AE yn bosibl gwneyd darlun trwy lythyrenau a geiriau, yn gystal â thrwy gerflun. Darluniau trwy cldesgrifiad a fedd- yliwn wrth y gair sydd genyni yn deitî. Ni fyddant mor darawiadol, fe allai, yn enwedig i blant, ag y byddai cerflun, ain eu bod yn gofyn mwy o waith i'r meddwl, ac am nad ydynt yn gyffredin mor fanwl a chyflawn—ani hyny y gelwir hwy jìi'fras luniau, neu luniau anmherffeithiedig. Ond am eu bod yn tynu mor agos at y darlun, mae darllenwyr ieuainc, yn gyffredin, yn hoff o honynt, ac am hyny rhoddwn un, yn awr ac eilwaith, yn eu Trysoefa. Cânt fod yn frasluniau o'r dynion goreu gan y plant am danynt o bawb, sef y pregethwyr. Ŵedi i ni orphen cyfres o ddwsin neu ddau, fe allai y rhoddwn yr enwau ; ond ni wnawn hyny yn awr, er mwyn gadael i'r darllenydd y pleser o ddyfalu. RHIF. i. Er mai ein hamcan yn yr ysgrifau hyn íýdd egluro nodweddion cyhoeddus y rhai ddaw dan ein sylw, ac yn benaf fel pregethwyr, eto rhaid i ni ddyweyd rhywbeth am eu personau. Mae y gŵr sydd yn awr ger ein bron wedi cyrhaedd cymydogaeth y " canol oed," ac wedi ennill cyhoeddusrwydd cenedlaethol. Nid y w ei