Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TRYSORFA Y PLANT. Rhif. XIV.] CHWEFROR, 1863. [Cyf. II. BRASLUNIAU. RHIF II. MAE hwn eto wedi sefydlu ei gymeriad a'i boblogrwydd fel dyn cyhoeddus er ys blynyddau, ac wedi cymeryd ei safìe ^^ mewn cylch uchel, ac ennill gradd dda ymysg gweinidogion cymhwys y Testament Newydd. Dyn o faintioH cyffredin ydyw ; gwyneb tarawiadol, llym, ac ëofn; ei ben bellach yn llwydo, a'i wallt yn dechreu ciho fel y gallo pawb weled uchder ei dalcen. Mae ei wedd a'i dôn yn cyhoeddi ysbryd annibynol, a bydd ei eir- iau yn fynych yn grâs a chwta ; ond ei air garwaf yw y cyntaf. Po agosaí' y gwesgwch ato, pellaf y cilia yr argraff o'r ysbryd ceidw- adol ac annibynol, a mwyaf ymwybodol y deuwch o'i galon a'i ymlyniad. Os geílwch feddwl o draw mai "gŵr boneddig" ac estron ydyw, a'i fod am i chwi gadw o fewn pellder cyfaddas, mentrwch chwi ymlaen, a chewch ddeall mai dyn fel chwithau ydyw, a daw mor agos atoch fel y galloch ddywedyd " fy mrawd" Avrtho. Prif brydweddau ei wyneb ydynt, toriad taclus a phrydferth ei enau, trwyn go fawr, a chyffyrddiad Rhufeinig ynddo, a llygad byw, treiddgar, a llygadog. Nid llygad, o'r un dosbarth ag eiddo