Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TRYSORFA Y PLANT. Rhif. XXII.] HYDREF, 1863. [Cît. n. PRYNWCH EICH GHERRIES EICH HUNAN. GAN J. W. RIRTON. tR oedd oddeutu tri o'r gloch ar brydnawn Sadwrn crasboeth yn mis Gorphenaf, pan daflodd John Lewis y saer ei forthwyl i lawr, y tynodd dair ceiniog allan o'i boced, ac y rhedodd dros y ffordd i'r " Golden Eagle " i gael peint i dori ei syched. Wedi agor drws y " bar," gwelai blatiaid o cherries (ceirios) addfed, â golwg demt- ìol arnynt, ar y counter addurnedig. Tynodd yr olwg arnynt ddwfr oddannedd John, a chyn ei fod yn gwybod yn iawn beth oedd yn ei wneyd, yr oedd ei law yn estynedig i gymeryd ychydig o hon- yut, pan waeddodd gwraig y tŷ yn groch o'r tu arall i'r counter,— "Cyffyrddwch chwi â'r rhei'na, os beiddiwch, syr!" Dychrynodd y llais ychydig ar John, a chyn iddo allu ateb, ychwanegodd y wraig,— " Y fath ëofhdra, yn wir! carwn wybod beth yw eich meddwl ?" "Wel, Missus, nid oeddwn yn meddwl ond cymeryd un neu - adwy i wlychu fy ngheg." " Yn wir, mae yn wefi i chwi beidio," ebai'r wraig, yrt. gyffröus.'.', "'Fydd diin croes genych, mi wn, i mi gymeryd ychydig? Yr'.% wyf- mor sychedig, ac y maent hwythau yn edrych mor swynol," j ebai John, gan feddwl nad oedd hi ond yn cellwair. "Ná chewch, syr, ddim un o honynt; yn awr y prynais hwynt i