Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TRISORFA Y PLANT. 141 MOZART. B oedd Johann Chrysostom Wolfgang Gottlieb Mozart yn tin o'r cerddorion mwyaf athrylithgar a ymddangosodd. Ganed ef yn Salzburg, Ionawr 27, 1756. Gwnaeth ei dad, yr hwn oedd yn swyddog yn y capel archesgobol, bob ymdrech i ddwyn aìlan dalentau cerddorol ei blentyn. Yr oedd yn chwar- euwr medrus ar rai offerynau cerdd yn bedair blwydd oed, ac wedi cyfansoddi amryw ddarnau cerdd- orol ydynt eto ar gael. Yr oedd ei dad yn gerddor, ac yr oedd ganddo chwaer nodedig am ei doniau cerddorol. Pan yn chwech oed chwareuodd Mozart o flaen yr ymherawdwr Francis L, yr hwn a'i galwai ef yn " swynwr bach." Wedi i'w dad a'i chwaer ac yntau fod ar ymweliad â Vienna a Muuich, a chael pob cefnogaeth, y flwyddyn ganlynol aethant ar daith gerddorol drwy Ewrop. Daethant i Paris, Ue y chwareuodd y plentyn yr organ o flaen yr holl lys Ffrengig, ac yno y cyhoedd- odd ei ddau lyfr cyntaf cyn ei fod yn wyth mlwydd oed. Mehbfin, 1879. ' f