Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhif. CXI.] MAWRTH, 1871. [Cyf. X f SAMSON. AE Samson yn un o ddynion hynod y BibL Mab Manoah ydoedd, o lwyth Dan. Ymddangosodd angel i'w fam, a dy wedodd y genid mab hynod iddi. Dywedodd y byddai yn Nazarëad i Dduw. o groth ei fam. Nid oedd i yfed gwîn na dîod gadarn, na'i fam ychwaith wrth ei feithrin a'i fagu. Dau Nazarëad enwog oedd Samson a SamueL Y tri pheth hynod yn hanes Samson, oeddent, ei fod yn Nazarëad i Dduw—ei fod yn farnwr ar Israel, er eu gwaredu o law y Philistiaid—a bod Ysbryd yr Ar- jlwydd yn dyfod arno ar brydiau, ac yn ei wneyd yn gryf a lerthol iawn. Nid cawr ydoedd, yn meddu ar nerth corfforol mawr, >nd dyn cyffredin, yn cael ei gynhyrfu gau Ysbryd yr Arglwydd. Ymddengys i'w wraig ei hudo i dòri deddfau eì Nazarëath; îorodd hono ei wallt, a gadawodd Ysbryd yr Arglwydd ef. Nid *" mai yn ei wallt yr oedd y nerth, ond yr oedd tòriad ei wallt