Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Bhif. CXXV.J MAI, 1872. [Cyp. XL TARW. AE y tarw mor adnabyddus i'n darllenwyr, fel nad oes anghen dyweyd nemawr am dano, eto bydd ?yn dda ganddynt gael edrych ar ei lun. Y mae un peth yn ddymuol yn y darlun hefyd, sef fod ei gyrn yn fychain. Y mae yn grëadur braf, nerthol; ac y mae yn gwirio yr hen dd'iareb, " Nerth tarw yn ei âdwyjron" Mae llawer o sôn am darw yn y Bibl. Nid oedd yr Iuddewon yn dysbaddu un math o anifeiliaid, ac nid yw y Mahometaniaid yn gwneyd hyny hyd y dydd hwn. Yr oedd eu holl ychain hwynt yn deirw. Y mae y tarw yn grëadur fiyrnig a pheryglus pan wedi ei gyffroi. Bu llawer o ymladd teirw yn y wlad hon, ac mewn gwledydd eraill. Gosod dynion i ymladd â hwynt, a gosod cŵn 1 ymladd â hwynt, mewn lle pwrpasol, a'r bobl yn talu symiau jnawrion amle yn yr orielau o amgylch. Bu hyn yn chwareufa lawr yn Bhufain. Y mae yr arferiad yn para hyd heddyw yn