Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TRYSORFA Y PLANT. Rhif. XXVIII.] EBRILL, 1864. [Ctf. III. BRASLUNIAü. EHIF. VII. fACW ddyn bychan pengrwn, go ieuanc, yn sefyll i fyny yn y pulpud. Dyn oddiallan ysgaíh ac eiddü ydyw, ond y mae ganddo ddyn oddimewn yn gawr nerthol; ac y mae gan yr olaf fwy o ran yn nghyfansoddiad y pregethwr na'r blaenaf. Mae ganddo lygad treiddgar, a threm hynod o ddifrifol. Ei lygad yw canolbwnc dylanwad ei wynebpryd; mae yn aflonydd, yn llosgi gan dreiddgarwch, ac yn llawn meddwl ac olrheiniad. Siarad ei hregeth y mae, ac nid yw byth yn ei gwaeddi, na'i chanu. Mae ganddo feddwl gwreiddiol, annibynol, a nerthol. A pha destun bynag a gymero, bydd ei bregeth arno yn annhebyg 1 bregethau pawb o'i flaen. Ymlidia ei bwnc yn ddidrugaredd, ac ymsudda i lawr i'w ddyfhderoedd ; fel y dyn yn disgyn yn y suddgloch i lawr at y llong suddedig, ac yn dwyn i fyny yr aur a'r arian a'r trysorau, heb ddefnyddio pylor, na cheibiau, na chadw dim twrw. üwg yntau o galon ei destun drysorau newydd a hen—ac o ddyfh- deroedd ei destun y deuant, ac nid o unlle aralL Mae treiddgarwch a manylder yn nodweddion arbenig ynddo. Sylla ar ei bwnc â'i holl enaid, nes y dadblyga llinellau a chysylltiadau eu hunain i'w olwg, nad ymddangosent byth i feddwl mwy egwan ac arwynebol. ™w y gwnai Jacob orchfygu yr angel â thaerineb gweddi, nes cael