Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TRYSORFA Y PLANT. Rhit. XXX.] MEHEFIN, 1864. [Cyf. III. LLYTHYR LTJTHER AT JOHN BACH EI FAB. fYDD y plant yn cofio mai un o ddynion mwyaf ei oes oedd Martin Luther, o Germany; ei fod yn un o ddiwygwyr penaf y byd; ac mai efe a fu y prif offeryn yn llaw yr Arglwydd i ryddhâu Ewrop o dan ddylanwad gormesol Pabyddiaeth. Mae wedi marw bellach er ys mwy na thri chan' mlynedd. Bydd yn dda gan filoedd o rieni a phlant ddarllen y llythyr anghymharol kwn o'i eiddo at ei John bach;— "Gras a heddwch i chwi, yn Iesu Grist, fy mhlentyn bychan anwyl. Yr wy f yn gweled gyda phleser eich bod yn dyfod ymlaen yn eich addysg, a'ch bod yn talu sylw i'ch gweddíau. Parhëwch i wneyd felly, fy anwyl blentyn; a phan ddychwelaf adref, dof âg amryw anrhegion hyfryd i chwi. "Yr wyf yn gwybod am ardd deg a phrydferth, yn llawn o blant wedi eu dilladu mewn gwisgoedd euraidd, yn chwareu dan brenau hyfryd afalau, pêr, ceirios, eiryn, a chnau. Y maent yn canu, yn neidio, ac oll wrth fodd eu calon. Mae ponies (ebolion) bychaîn prydferth yno hefyd, gyda fErwynau aur a chyfrwyau arian. Wrth fyned trwy yr ardd, gofynais i ryw ddrn beth ydoedd, a phwy oedd y plant hyny. Atebodd yntau, 'Dyma y plant sydd yn caru gweddio a dysgu—^plant da a duwioL Dy- wedais innau wrtho, 'Anwyl gyfaill, mae genyf finnau hefy'd