Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TRYSORFA Y PLANT. IlHIF. XXXIII.] MEDI, 1864. [Ctf. III. NELLY A NANCY, NEU BLANT Y MEDDWYN. ,'| |R oedd Charles Nelson wedi cyrhaedd ei bymtlieng mlwydd ar 3i hugain, ac yn yr oedran yma teimlai ei fod yn myned ar y S goriwaered. Bu unwaith yn un o'r dynion mwyaf dedwydd. Yr oedd ganddo un o'r gwragedd goreu erioed, ac yr oedd ei blant yn brydferth a synwyrol. Saer ydoedd wrth ei alwedigaeth; ac nid oedd neb a gawsai waith yn gynt nag ef, na neb a gawsai fwy o gj'flog am ei wneyd. Os buasai rhywun yn codi tŷ yn yr ardal, fawsai Charles y cynnyg cyntaf arno ; ac yr oedd galw mawr ani (lano ymhell ac yn agos. Ond daeth cyfnewidiad dros ei fywyd. Daeth ysbryd drwg i'w gyfarfod ar ei ffordd, a thrôdd yn ei ól gyda hwnw. Gyrwyd am saer arall gan y rhai nad allent ymddi- 'ynu mwyach ar Nelson; ymsefydlodd hwnw yn y pentref, ac aeth holl waith Nelson i'r dyn dyeitìir. Yn ymyl heol y naill ochr i'r pentref, 11 e y taflai coed mawr Sysgod eu cangenau, y safai tý bychan, yr hwn a fu unwaith yn ^Tthddrych ymffrost ei breswylwyr. O'i flaen yr ymledai gardd, JQ awr a'i chwỳn yn gorchuddio y blodau, a'r cae o'i hamgylch wedi ei rwygo mewn amryw fanau. Bu y tŷ unwaith yn wỳn, ond y mae yn awr yn dywyll a diolwg. Addurnid y ffenestri un- ìv*aith â blinds gwyrdd dysglaer, ond yn awr y maent wedi eu tynu yinaith a'u gwerthu. Dengys y ffenestri eu hunain arwyddion o «lodi ac esgeulusdra; oblegid yr oedd y gwydr wedi myned